Band o Danygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog, oedd Estella. Ffurfiodd y band ar ddiwedd y 1990au, pan oedd yr aelodau yn fyfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Mae'r prif leisydd Lauren, y gitarydd Kez a'r gitarydd bas Asa yn chwaer a dau frawd. Roedd Hans a Siaron hefyd yn y band, y ddau yn chwarae offerynnau taro ac yn beiriannwyr sain. Rhyddhawyd eu albwm ddwyieithog 'Lizarra', ag arni 13 o draciau, yn 2003 gan label Recordiau Sain. Yr enw Sbaeneg a roir i bentref Lizarra yng Ngwlad y Basg yw Estella. Mae'n debyg nad oeddent yn gwybod hynny pan ffurfiwyd y band, ac mai'r darganfyddiad gynigiodd yr enw i'w albwm.

Lizarra, album cover

Ffynonellau

golygu