Etholiadau ym Mhortiwgal
Mae'r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth ynglŷn ag etholiadau a chanlyniadau etholiadau ym Mhortiwgal.
Ar lefel genedlaethol mae Portiwgal yn ethol yr Arlywydd a'r Senedd genedlaethol, Cynulliad y Weriniaeth. Caiff yr Arlywydd ei ethol am derm o bum mlynedd gan y bobl ac mae gan y Senedd 230 o aelodau, wedi'u etholu am term pedair mlynedd trwy system cynrychiolaeth gyfranol yn etholaethau aml-sedd, y dosbarthiadau. Hefyd, ar lefel genedlaethol, mae Portiwgal yn ethol 24 aelod i'r Senedd Ewropeaidd.