Evan Pan Jones
Llenor Cymraeg, gweinidog annibynnol, golygydd a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Evan Pan Jones (12 Mehefin 1834 – 8 Mai 1922).[1]
Evan Pan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mehefin 1834 Llandysul |
Bu farw | 8 Mai 1922 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni ym mhlwyf Llandysul, Ceredigion yn 1834. Ar ôl cael ei addysgu yng ngholegau'r Annibynwyr yng Nghymru ac ym Mhrifysgol Marburg yn yr Almaen, aeth yn weinidog yn y Fflint lle treuliodd weddill ei oes.
Cyfranodd yn helaeth i'r ddadl yn y wasg dros ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, yn enwedig yn ei swydd fel golygydd papur newydd Y Celt. Fel diwygiwr cymdeithasol, roedd yn gadarn o blaid y ffermwyr llai yn erbyn y meistri tir gan argymell gwladoli'r tir yng Nghymru a gwneud i ffwrdd â'r stadau mawr.
Fel llenor, ysgrifennodd gofiannau i Samuel Roberts ('S.R. Llanbrynmair') a'i frodyr ac i Michael D. Jones, arloeswr Y Wladfa, ynghyd â sawl erthygl, hunangofiant a drama.
Llyfryddiaeth
golygu- Y Dydd Hwn: Annibyniaeth yn Symud fel Cranc (1880). Drama.
- Cofiant y Tri Brawd o Lanbryn-mair (1892)
- Cofiant Michael D. Jones (1903)
- Oes Gofion (dim dyddiad, tua 1905). Hunangofiant.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens