Y Celt
Papur Cymraeg wythnosol a sefydlwyd ym 1878 oedd Y Celt. Cyhoeddwyd ynddo newyddion a thrafodaethau crefyddol a bu nifer o enwogion yn ei olygu yn eu tro: Samuel Roberts (1800–1885), Michael D. Jones, Evans Pan Jones (1834–1922), D. Stephan Davies (1841–1898), William (Keinion) Thomas (1856–1932), D. Silyn Evans ac eraill.
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol |
---|---|
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 Ebrill 1878 |
Dechrau/Sefydlu | 1878 |
Lleoliad cyhoeddi | y Bala, Llanelli |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Fe’i cyhoeddwyd mewn sawl lleoliad, gan gynnwys y Bala, Caernarfon, Bangor, Aberfan a Llanelli rhwng 1878 a 1902, ac yna rhwng 1905 a 1906.