Evan Roberts (rygbi)
Roedd Evan Roberts (19 Medi 1861 – 16 Hydref 1927) [1] yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol o Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli a rygbi rhyngwladol i Gymru.[2]
Evan Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 19 Medi 1861 Llanelli |
Bu farw | 16 Hydref 1927 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefndir
golyguGanwyd Roberts yn Llanelli, yn blentyn i Evan Roberts, glöwr, ac Elizabeth (née Treharne) ei wraig.[3] Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth yn y gwaith tunplat.
Ym 1886 priododd Ann Evans fu iddynt 11 o blant, 3 mab a 7 merch.
Tu allan i'r byd rygbi bu Roberts yn gwasanaethu fel cynghorydd y Blaid Lafur ar Gyngor Bwrdeistref Llanelli, yn aelod o bwyllgor Ysbyty Llanelli, yn sefydlydd ac arweinydd Cymdeithas Gristionogol y Gwŷr Ifanc (YMCA).[4] Roedd yn swyddog yn Urdd Anrhydeddus Alfred ac Urdd y Gwladgarwyr Unedig, ac roedd yn aelod amlwg a gweithgar o Gapel Moriah y Bedyddwyr. [5]
Bu farw yn ei gartref yn Glanymor Place, Llanelli yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Moriah.
Gyrfa rygbi
golyguDewiswyd Roberts i chwarae i Gymru mewn dwy gêm rygbi'r undeb ryngwladol, y ddwy wrth chwarae rygbi clwb i Lanelli. Roedd ei gap cyntaf mewn gêm yn erbyn Lloegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886. Aeth Roberts i mewn i'r pac gyda thri chap newydd arall, ac yn gefnwr, ei gyd aelod o dîm Llanelli, Harry Bowen. Collodd Cymru’r ornest o drwch y blewyn, a phan arbrofodd tîm Cymru gyda’r pedwar tri chwarter yn y gêm nesaf, yn erbyn yr Alban, roedd Roberts yn un o’r blaenwyr a ollyngwyd o’r pac. Chwaraeodd Roberts un gêm arall i Gymru, gêm olaf Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1887, yn erbyn Iwerddon. Roedd Cymru wedi gollwng y system pedwar trichwarterwr ar gyfer Pencampwriaeth 1887, a daethpwyd â Roberts i mewn i gymryd lle Bob Gould. Er i Iwerddon sgorio tri chais a Chymru dim ond un, aeth y fuddugoliaeth i Gymru am gicio gôl adlam. Er gwaethaf y fuddugoliaeth, ni ddewiswyd Roberts i gynrychioli ei wlad eto.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru[6]
Llyfryddiaeth
golygu- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Grafton Street, Llundain: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Evan Roberts player profile Scrum.com
- ↑ "South Wales Football Players - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-04-21. Cyrchwyd 2021-05-14.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad Llanelli 1871 RG10/5468; Ffolio: 81; tud: 2
- ↑ Llanelley Ex-Councillor and Footballer Western Mail 20 Hydref 1927, tudalen 6
- ↑ Mr Evan Roberts Llanelley. Western Mail 18 Hydref 1927 tudalen 10
- ↑ Smith (1980), pg 471.