Evansville, Indiana

Dinas yn nhalaith Indiana, Unol Daleithiau America, sy'n ddinas sirol Vanderburgh County, yw Evansville. Mae gan Evansville boblogaeth o 117,429.[1] ac mae ei harwynebedd yn 105.6 km².[2] Cafodd ei sefydlu (neu ei ymgorffori) yn y flwyddyn 1812.

Evansville
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau, dinas fawr, tref ddinesig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRobert Morgan Evans Edit this on Wikidata
Poblogaeth117,298 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1817 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLloyd Winnecke Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iOsnabrück Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVanderburgh County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd123.902863 km², 115.579464 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr118 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.9747°N 87.5558°W Edit this on Wikidata
Cod post47701, 47702, 47703, 47704, 47705, 47706, 47708, 47710, 47711, 47712, 47713, 47714, 47715, 47716, 47719, 47720, 47721, 47722, 47724, 47725, 47726, 47727, 47728, 47730, 47731, 47732, 47733, 47734, 47735, 47736, 47737, 47739, 47740, 47741, 47744, 47747, 47750, 47755, 47761, 47777 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Evansville, Indiana Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLloyd Winnecke Edit this on Wikidata
Map

Ceir tystiolaeth o'r Paleo-Indiaid yn yr ardal am dros 8,000 o flynyddoedd e.e. Angel Mounds sy'n dyddio i rhwng 900 a'r 17g.[3] Gwyddom fod y llwythi brodorol: Miami, Shawnee, Piankeshaw, Wyandot a phobol y Lenape wedi byw yn yr ardal. Ffrancwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i symud i'r ardal, i Vincennes.

 
Y cadfridog Robert Morgan Evans, yn 1889

Ar 27 Mawrth 1812, prynnodd Hugh McGary yr Hynaf 441 acer gan ei alw'n "McGary's Landing". Yn 1814, er mwyn dennu llawer mwy o drigolion, ailenwodd y dref yn "Evansville" gan fod y Cadfridog Robert Morgan Evans yn arwr poblogaidd. Ei hen daid oedd John ap Evans (neu "ap Ifans" fel y galwyd ef) a anwyd ym mhlwyf Llanfachreth, Talybont, Merionnydd yn 1683.[4]

Cafodd y dref ei hymgorffori yn 1817 ac yna'n sir ar 7 Ionawr 1818.[5][6]


Gefeilldrefi Evansville

golygu
Gwlad Dinas
  Japan Tochigi-Shi
  Mecsico Tizimín
  Yr Almaen Osnabrück

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Table 1: 2010 Munnicipality Population". 2010 Population. United States Census Bureau, Rhaniad y boblogaeth. 2010-03-24. Archifwyd o'r gwreiddiol (CSV) ar 2011-06-14. Cyrchwyd 2009-07-01.
  2. Poblogaeth Evansville, Indiana MSA Archifwyd 2006-08-25 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 22 Mehefin 2010
  3. http://www.angelmounds.org/about-us-2/angel-mounds/
  4. geni.com; adalwyd 26 Chwefror 2016
  5. Patry, R. (1996). City of the four freedoms. Robert Patry and friends of Willard Library. tt. 11–15.
  6. Morlock, J. (1956). The Evansville Story. James Morlock.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Indiana. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.