Evita (sioe gerdd)
Sioe gerdd gan Andrew Lloyd Webber ydy Evita, gyda geiriau gan Tim Rice. Adrodda'r sioe gerdd hanes bywyd yr arweinydd gwleidyddol yr Ariannin, Eva Perón, ail wraig arlywydd yr Ariannin Juan Perón. Mae'r stori'n dilyn hanes bywyd cynnar Evita, ei gyrfa actio, ei esgyniad i bŵer, ei gwaith elusennol, ei rhan yn y mudiad ffeministaidd a'i marwolaeth.
Evita | |
Poster y sioe wreiddiol | |
---|---|
Cerddoriaeth | Andrew Lloyd Webber |
Geiriau | Tim Rice |
Seiliedig ar | Yn seiliedig ar fywyd Eva Peron |
Cynhyrchiad | 1976 albwm cysyniadol 1978 West End 1979 Broadway 1996 Ffilm 2006 Adfywiad yn West End Llundain 2008 Taith y DU |
Gwobrau | Gwobr Olivier am y Sioe Gerdd Newydd Orau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Sgôr Gorau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau |
Dechreuodd "Evita" fel albwm cysyniadol ym 1976. Yn sgîl ei lwyddiant, cafwyd cynyrchiadau yn West End Llundain ym 1978 ac ar Broadway flwyddyn yn ddiweddarach. Gwnaed ffilm o'r sioe gerdd ym 1996, Evita, a oedd yn serennu Madonna ac Antonio Banderas. Arweiniodd hyn at adfywiad yn Llundain yn 2006, a gwelwyd nifer o gynhyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol a recordiwyd nifer o albymau gyda'r castiau.
Rhestr o Ganeuon (cynhyrchiad gwreiddiol Broadway)
golygu
|
|