Juan Perón
Gwleidydd o'r Ariannin oeddJuan Domingo Perón (8 Hydref 1895 – 1 Gorffennaf 1974) a etholwyd yn Arlywydd yr Ariannin dair gwaith. Ef oedd sylfaenydd Peroniaeth a'r blaid sy'n arddel yr ideoleg honno, y Partido Justicialista.
Juan Perón | |
---|---|
Ganwyd | Juan Domingo Perón 8 Hydref 1895 Lobos |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1974 o ffibriliad fentriglaidd Quinta presidencial de Olivos |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, gwleidydd |
Swydd | Vice President of Argentina, Arlywydd yr Ariannin, Arlywydd yr Ariannin |
Plaid Wleidyddol | Partido Justicialista |
Tad | Mario Tomás Perón |
Mam | Juana Sosa Toledo |
Priod | Aurelia Gabriela Tizón de Perón, Eva Perón, Isabel Martínez de Perón |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes y Llynges, gyda bathodyn gwyn, Grand Cross of the Aeronautical Merit (Spain) - White Decoration, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Order of May, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Urdd dros ryddid, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Urdd Cenedlaethol Anrhydedd a Theilyngdod, Order of the Condor of the Andes, Gorchymyn Teilyngdod Cenedlaethol, Urdd Boyacá, Urdd Croes y De, Urdd Umayyad, Urdd Eryr Mecsico, Order of Merit of Duarte, Sanchez and Mella, Urdd Teilyngdod (Chili), Urdd Carlos Manuel de Céspedes, Star of the Socialist Republic of Romania |
llofnod | |
Ganed Perón yn Lobos, Talaith Buenos Aires. Addysgwyd ef yn ninas Buenos Aires, ac aeth i'r Coleg Milwrol yn 1910, gan raddio yn 1916. Ei wraig gyntaf oedd Aurelia Tizón, a fu farw o gancr. Ail-briododd a'r actores María Eva Duarte (1919 – 1952) ar 22 Hydref 1945. Roedd Evita fel y gelwid Eva Perón yn cydweithio'n agos a'i gŵr yn wleidyddol, ac yn gefnogol i hawliau i ferched a diwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol câi ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.
Etholwyd ef yn Arlywydd am y tro cyntaf ar 24 Chwefror 1946. Ar ddiwedd ei dymor cyntaf, ail-etholwyd ef yn etholiad 11 Tachwedd 1951. Bu farw Eva Perón ar 26 Gorffennaf 1952. Y tro hwn, ni allodd Perón gwblhau ei dymor, oherwydd diswyddwyd ef yn dilyn coup milwrol ar 16 Medi 1955. Bu mewn alltudiaeth am 18 mlynedd, nes dychwelyd a chael ei ethol yn Arlywydd am y trydydd tro ar 23 Medi 1973.
Bu farw yn ystod ei dymor fel Arlywydd ar 1 Gorffennaf 1974, ac olynwyd ef gan ei weddw, ei drydedd wraig María Estela Martínez de Perón, oedd wedi ei hethol fel is-arlywydd yn 1973.