Ewyas Harold

pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ewyas Harold.[1] Gorwedd tua 10 milltir i'r de-orllewin o dref Henffordd, tua milltir yn unig o'r ffin â Chymru.

Ewyas Harold
Eglwys San Mihangel a'r Holl Anghylion, Ewyas Harold
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod Unedol)
Poblogaeth887 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.953°N 2.891°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000756 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r Ewyas yn yr enw yn cyfeirio at hen gwmwd ac arglwyddiaeth Cymreig Ewias, a fu'n rhan o deyrnas Gwent yn yr Oesoedd Canol. Codwyd Castell Ewyas Harold yma gan arglwydd Normanaidd lleol ar ôl i'r Normaniaid gipio Ewias ar ddiwedd yr 11g. Tua 3 milltir i'r gogledd ceir adfeilion Abaty Dore.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 883.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 22 Hydref 2019
  2. City Population; adalwyd 22 Hydref 2019
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.