Félix Vallotton
Arlunydd o'r Swistir oedd Félix Vallotton (28 Rhagfyr 1865 - 29 Rhagfyr 1925), sy'n adnabyddus am ei engrafiadau ar bren o gyfoeswyr enwog ac am ei baentiadau.
Félix Vallotton | |
---|---|
Ffugenw | Vallotton, Felix |
Ganwyd | Félix Édouard Vallotton 28 Rhagfyr 1865 Lausanne |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1925 o canser Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Y Swistir, Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, beirniad celf, cymynwr coed, darlunydd, nofelydd, gwneuthurwr printiau, llenor, arlunydd graffig, artist, golygydd papur newydd |
Adnabyddus am | Étude de fesses, L'Enlèvement d'Europe, Alfred Athis, La Blanche et la Noire, La Malade, Intimités |
Arddull | portread, celf tirlun, peintio genre, paentiad mytholegol, noethlun, hunanbortread, bywyd llonydd |
Prif ddylanwad | Charles Maurin |
Mudiad | Nabis, Argraffiadaeth, Symbolaeth (celf), Ôl-argraffiaeth, Art Nouveau |
Priod | Gabrielle Bernheim |
llofnod | |
Ganed Vallotton yn Lausanne yn ardal Ffrangeg y Swistir. Yn 17 oed, aeth i Académie Julian ym Mharis, man a fu'n bologaidd gan sawl un o'r ôl-argraffiadwyr Ffrengig. Mewn llai na deg mlynedd, llwyddodd yr arlunydd ifanc i wneud enw iddo'i hun yn y byd avant-garde ym Mharis. Daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol oherwydd ei engrafiadau ar bren a'i darluniau du a gwyn.
O 1899 ymlaen canolbwyntiodd ar baentio. Cafodd sawl arddangosfa ym Mharis, gweddill Ffrainc, ei Swistir enedigol a sawl gwlad arall.
Ceisiai bynciau newydd yn ddibaid ac arbrofai â dulliau mynegiant newydd. Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith cryf arno. Troes o baentio gyda dulliau traddodiadol i arloesi dulliau haniaethol. Cymerodd ei yrfa dro newydd ond bu farw yn 1925.