Faber and Faber

(Ailgyfeiriad o Faber & Faber)

Tŷ cyhoeddi annibynnol gyda'i bencadlys yn Llundain yw Faber and Faber, y cyfeirir ati yn aml fel Faber. Mae'n cyhoeddi ffuglen, drama, llyfrau plant, bywgraffiadau, cofiannau, traethodau a gwaith ffeithiol eraill, ond mae'n arbennig o enwog fel cyhoeddwr barddoniaeth.

Faber and Faber
Enghraifft o'r canlynolcyhoeddwr, cyhoeddwr llyfrau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1929 Edit this on Wikidata
SylfaenyddGeoffrey Faber Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolPublishers Association Limited Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.faber.co.uk/ Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y cwmni ym 1925 fel Faber and Gwyer Ltd, a oedd yn gydweithrediad rhwng Geoffrey Faber (1889–1961) a'r Fonesig Gwyer, merch y cyhoeddwr Syr Henry Burdett.[1] Penodwyd y bardd T. S. Eliot i'r bwrdd cyfarwyddwyr, ac roedd ef yn aros yn y sefyllfa honno trwy gydol ei oes. Ym 1929 prynodd Geoffrey Faber gyfran Bonesig Gwyer ac ailenwodd y cwmni yn Faber and Faber, er nad oedd unrhyw un arall o'r enw Faber yn gweithio yno.

Ym 1965 sefydlwyd Faber Music fel chwaer cwmni, ac fe'i adnabyddir fel cyhoeddwr o gerddoriaeth glasurol gyfoes.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Faber & Faber: History". Faber & Faber. Adalwyd 13 Ebrill 2018.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.