Falkirk (awdurdod unedol)
Un o awdurdodau unedol yr Alban yw Falkirk (Gaeleg yr Alban: an Eaglais Bhreac). Y ganolfan weinyddol yw tref Falkirk.
Mae'n ffinio a Gogledd Swydd Lanark, Stirling a Gorllewin Lothian, ac ar draws Moryd Forth a Fife a Swydd Clackmannan. Ffurfiwyd yr awdurdod yn 1996, yn dilyn ffiniau Cyngor Dosbarth Falkirk.