Felipe V, brenin Sbaen
Brenin Sbaen o 1 Tachwedd 1700 hyd 14 Ionawr 1724, ac unwaith eto o 6 Medi 1724 hyd ei farwolaeth oedd Felipe V (19 Rhagfyr 1683 – 9 Gorffennaf 1746).[1]
Felipe V, brenin Sbaen | |
---|---|
Ganwyd | 19 Rhagfyr 1683 Versailles |
Bu farw | 9 Gorffennaf 1746 o strôc Madrid |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc, Teyrnas Sbaen |
Galwedigaeth | llywodraethwr, gwleidydd, casglwr celf |
Swydd | teyrn Sbaen, teyrn Sbaen, teyrn Aragón, Brenin neu Frenhines Castile a Leon, pennaeth gwladwriaeth Sbaen, pennaeth gwladwriaeth Sbaen, Dug Anjou, Brenin Sardinia |
Tad | Louis |
Mam | Maria Anna Victoria o Bafaria |
Priod | Maria Luisa o Safwy, Elisabetta Farnese |
Plant | Luis I, brenin Sbaen, Fernando VI, Siarl III, brenin Sbaen, Mariana Victoria o Sbaen, Filippo I, Maria Teresa Rafaela o Sbaen, Infante Luis, Maria Antonia Ferdinanda o Sbaen, Infante Felipe Pedro o Sbaen, Philip Louis o Sbaen, Infante Francisco o Sbaen |
Perthnasau | Ferdinand Maria, Etholydd Bafaria, Y Dywysoges Henriette Adelaide o Safwy, Maria Theresa o Sbaen, Louis XIV, brenin Ffrainc, Felipe IV, brenin Sbaen, Fernando VII |
Llinach | Tŷ Bourbon Sbaen |
Gwobr/au | Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur, Urdd Montesa, Urdd Santiago, Urdd Alcántara, Urdd Calatrava, Urdd yr Ysbryd Glân, Urdd Sant Mihangel |
llofnod | |
Fe'i ganwyd i deulu brenhinol Ffrainc (fel Philippe, Dug Anjou) yn ystod teyrnasiad ei daid, Louis XIV. Roedd yn ail fab i Louis, Grand Dauphin, ac yn drydydd yn llinell olyniaeth i goron Ffrainc. Nid oedd disgwyl iddo ddod yn frenhin, ond roedd ei hen-ewythr Siarl II, brenin Sbaen yn ddi-blant. Oherwydd bod disgwyl i'w dad a'i frawd hynaf etifeddu gorsedd Ffrainc, enwyd Philip gan Siarl II fel etifedd tebygol gorsedd Sbaen. Esgynnodd Philippe orsedd Sbaen yn 1700 ar ôl marwolaeth Siarl, a daeth yn aelod cyntaf o Dŷ Bourbon i deyrnasu fel brenin Sbaen. Roedd gwledydd eraill Ewrop yn ystyried y posibilrwydd o uno Ffrainc a Sbaen o dan un teyrn fel bygythiad i gydbwysedd pŵer ar y cyfandir, a chymerasant gamau i'w atal. Ysgogodd esgyniad Philippe i Sbaen Ryfel Olyniaeth Sbaen a barhaodd am dros 13 mlynedd (1701–15).
Ym 1724 ymwrthododd Felipe â'r orsedd o blaid ei fab hynaf, Luis. Bu farw'r brenin newydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a chymerodd Felipe yr orsedd eto am 21 mlynedd arall. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf a oedd wedi goroesi, sef Ferdinand VI.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stanley G. Payne (1973). A History of Spain and Portugal, volume 2 (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Wisconsin. tt. 351–355.
Felipe V, brenin Sbaen Ganwyd: 19 Rhagfyr 1683 Bu farw: 9 Gorffennaf 1746
| ||
Rhagflaenydd: Siarl II |
Brenin Sbaen 1 Tachwedd 1700 – 14 Ionawr 1724 |
Olynydd: Luis I |
Rhagflaenydd: Luis I |
Brenin Sbaen 6 Medi 1724 – 9 Gorffennaf 1746 |
Olynydd: Ferdinand VI |