Siarl II, brenin Sbaen

llywodraethwr (1661-1700)

Brenin Sbaen o 17 Medi 1665 hyd ei farwolaeth oedd Siarl II (Sbaeneg: Carlos II; 6 Tachwedd 16611 Tachwedd 1700). Efe oedd yr olaf o linach y Habsbwrgiaid i deyrnasu ar y wlad honno.[1] Dioddefodd o sawl afiechyd ac anabledd meddyliol a chorfforol o ganlyniad i fewnfagwraeth yn ei frenhinllin, a chafodd yr enw El Hechizado ("yr un sydd wedi ei reibio").

Siarl II, brenin Sbaen
Ganwyd6 Tachwedd 1661 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 1700 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Man preswylRoyal Alcazar of Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Aragón, Brenin neu Frenhines Castile a Leon, Brenin Sardinia, tywysog Asturias Edit this on Wikidata
TadFelipe IV, brenin Sbaen Edit this on Wikidata
MamMariana o Awstria Edit this on Wikidata
PriodMarie Louise d'Orléans, Maria Anna o Neuburg Edit this on Wikidata
PerthnasauMarged o Awstria, Brenhines Sbaen, Felipe III, brenin Sbaen, Ferdinand III, Maria Anna o Sbaen Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Hapsbwrg Sbaen Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Urdd Montesa, Urdd Calatrava, Urdd Alcántara, Uchel Feistr Urdd Santiago Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd ym Madrid yn fab i Felipe IV a'i ail wraig Mariana o Awstria. Fe ddaeth i'r orsedd yn 3 oed yn sgil marwolaeth ei dad ar 17 Medi 1665. Am ddeng mlynedd, cyflawnodd ei fam swyddogaethau'r teyrn fel rhaglyw, ac wedi iddo gyrraedd llawn oed parhaodd ei dylanwad hi yn y llywodraeth. Ymdrechodd Mariana i amddiffyn diddordebau ei mamwlad Awstria a bu sgandalau ynghylch ei ffefrynnau, yr offeiriad o Iesuwr Johann Eberhard Nithard a'r gweinidog Fernando de Valenzuela. Cynllwyniodd Juan José de Austria, hanner brawd anghyfreithlon Carlos, yn ei herbyn, a chafodd ei halltudio ym 1677. Wedi marwolaeth Juan ym 1679, dychwelodd Mariana i'r llys.

Yn ystod teyrnasiad Carlos, bu'n rhaid i Sbaen frwydro yn erbyn y Ffrancod yn yr Iseldiroedd yn ystod y Rhyfel Datganoli (1667–68) a'r Rhyfel Naw Mlynedd (1688–97). Collodd Sbaen cryn ddylanwad a grym rhyngwladol ac wynebodd dirywiad economaidd a chymdeithasol. Brenin gwan oedd Carlos, ac yn draddodiadol fe'i bortreadir yn bersonoliad o ddirywiad Sbaen yn niwedd yr 17g. Dadleua hanesyddion diweddar nad oedd Carlos i feio am holl broblemau'r wlad, a bod sawl agwedd o fywyd economaidd, gan gynnwys cynnyrch amaeth a'r diwydiant gwehyddu, wedi gwella yn ystod ei deyrnasiad.[2]

Er iddo briodi ddwywaith, ni chafodd yr un plentyn, ac mae'n debyg yr oedd Carlos heb yr allu i gael plant. Ar ddiwedd ei deyrnasiad, problem yr olyniaeth oedd pwnc pwysicaf y llys. Ceisiodd yr Awstriaid a'r Ffrancod i berswadio Carlos i ddewis un o'i berthnasau estynedig o'r llinachau hynny i'w olynu yn frenin Sbaen. Yn ei ewyllys, enwodd ei or-nai Philippe, Dug Anjou yn olynydd iddo. Cychwynnodd Rhyfel Olyniaeth Sbaen yn sgil marwolaeth Carlos II yn 38 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Charles II, king of Spain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Hydref 2017.
  2. (Saesneg) Jodi Campbell, "Charles II (Spain) (1661–1700)" yn Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 13 Medi 2017.
Siarl II, brenin Sbaen
Ganwyd: 6 Tachwedd 1661 Bu farw: 1 Tachwedd 1700

Rhagflaenydd:
Felipe IV
Brenin Sbaen
17 Medi 16651 Tachwedd 1700
Olynydd:
Felipe V