Ffederasiwn Pêl-droed Albania
Ffederasiwn Pêl-droed Albania (Albaneg: Federata Shqiptare e Futbollit; FSHF) yw corff llywodraethol pêl-droed yn Albania. Mae pencadlys y Gymdeithas yn y brifddinas, Tirana. Y Gymdeithas sy'n gyfrifol am drefnu a rheoleiddio strwythur y gêm a chynghreiriau Albania sef: Kategoria Superiore (Superliga Albania), y Gynghrair Gyntaf, yr Ail Gynghrair, y Drydedd Gynghrair, Cwpan Albania a'r Supercup. Maent yn gyfrifol am dîm cenedlaethol y dynion, menywod, pencampwriaeth bêl-droed menywod a Chwpan Bêl-droed Menywod. Mae'r Gymdeithas yn cydlynu y tîm cenedlaethol ieuenctid megis dan-21, dan-20, dan-19, dan-18, dan-17, dan-16 a dan-15.
UEFA | |
---|---|
Sefydlwyd | 6 Mehefin 1930 |
Aelod cywllt o FIFA | 12 Mehefin 1932 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Llywydd | Armand Duka ers 2002[1] |
Gwefan | FSHF.org |
Noder - er mai Albaniaid yw mwyafrif helaeth poblogaeth Cosofo mae gan y wlad honno ei gymdeithas a strwythur annibynnol ei hun; Ffederasiwn Pêl-droed Cosofo.
Hanes
golyguSefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Albania ar 6 Mehefin 1930.[2] ac ymunodd hi â'r corff llywodraethol byd-eang, FIFA yn ei cyngres ar 12-16 Mehefin 1932.
Yn yr un flwyddyn dechreuodd bencampwriaeth y wlad, y Kampionati Shqiptar gyda chwe thîm: Skënderbeu Korçë, Teuta Durres, Elbasan Urani, SK Vlora, SK Tirana a Shkodra Bashkimi.
Cymerodd Albania le Gwlad Groeg yng Nghwpan y Balcan, ac o'r herwydd chwaraewyd gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf y wlad ar 7 Hydref 1946 yn Tirana. Roedd y gêm yn erbyn Iwgoslafia, lle collwyd 2 : 3. Serch hynny, cipiwyd y teitl - hyd yn hyn yr unig deitl rhyngwladol gan y wlad.
Yn 1954 daeth yr FSHF yn un o aelodau sefydliedig corff llywodraethol Ewrop, UEFA.[3]
Daeth ei rhan gyntaf mewn twrnamaint fawr oedd cystadlu ym Mhencampwriaeth Ewrop yn 1964. Bwriwyd Albania allan o'r gystadleuaeth ar ôl y tro cyntaf rownd-bye yn yr ail rownd ar ôl 1: buddugoliaeth 0 yn y cymal cyntaf gyda 0: colled 4-coes wedi methu â Denmarc.
O fis Mawrth i fis Ebrill 2008, mae aelodaeth y Gymdeithas Bêl-droed Albanian i FIFA ac UEFA ei atal oherwydd bod y llywodraeth wedi ymyrryd ym materion y gymdeithas.[4]
Ar 14 Mawrth 2008, gwaharddwyd yr FSHF gan FIFA am "ymyrraeth wleidyddol drwm." Canlyniad hyn oedd i dimau cenedlaethol Albania gael eu gwahardd rhag sawl peth: chwarae gemau swyddogol, gwahardd cynrychiolwyr o ddigwyddiadau swyddogol, a reffaris yn methu dyfarnu gemau oedd o dan adain FIFA.[4] Codwyd y gwaharddiad wedi i'r ymyrraeth wleidyddol gael ei egluro, ac ar 27 Mai 2008, chwaraeodd Albania gyfeillgar yn erbyn Gwlad Pŵyl.
Yn ystod 2009 cododd dadl rhwng yr FSHF a'r llywodraeth Albania ynghylch perchnogaeth Stadiwm Qemal Stafa. Mynnodd UEFA lobïo o blaid i'r stadiwm gael ei roi i berchnogaeth yr FSHF fel y gellir buddsoddu ynddo.[5] Ym mis Chwefror 2011 penderfynwyd y bydd y stadiwm newydd, a fydd yn disodli'r un presennol ac yn costio €60M Ewro, yn 75% o dan perchnogaeth yr FSHF a 25% o dan berchnogaeth llywodraeth Albaniaidd. [7]
Chwaraewyd gêm gyntaf tîm cenedlaethol y menywod ar 5 Mai 2011 -gêm gyfeillfar yn erbyn Macedonia. Albania enillodd, 1 : 0.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ From UEFA's website last viewed 3/16/2010
- ↑ "Results hint at Albanian ascension". UEFA.com. 22 January 2015. Cyrchwyd 11 January 2018.
- ↑ "Foto e rrallë/ Ja si e ka pritur Ahmet Zogu ekipin kombëtar të futbollit" [Rare picture / Here's how Ahmet Zogu hosted the national football team] (yn Albanian). Citynews. 27 December 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-12. Cyrchwyd 11 January 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 4.0 4.1 "UEFA statement on Albania". UEFA.com. 20 March 2008. Cyrchwyd 11 January 2018.
- ↑ Bashkim Tufa (25 August 2010). "80 vjet futboll, Blater d he Platini në Tiranë" [80 years of football, Blatter and Platini in Tirana)] (yn Albanian). Sport Ekspres. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-10. Cyrchwyd 24 August 2010.CS1 maint: unrecognized language (link)