Ffederasiwn Pêl-droed Cosofo

cymdeithas bêl-droed Cosofo

Ffederasiwn Pêl-droed Cosofo (Albaneg: Federata e Futbollit e Kosovës; Serbeg: Фудбалски савез Косова, trawslythrenni: Fudbalski savez Kosova) yw corff llywodraethol pêl-droed yng ngweriniaeth Cosofo,[a][1] gyda'r pencadlys yn Prishtina. Sefydlwyd y Ffederasiwn yn 1946 fel cangen o Gymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia,[2] ond mae bellach yn gorff annibynnol. Mae'n trefnu wyth cystadleuaeth bêl-droed yn Cosofo.[3]. Y Ffederasiwn (FFK) sy'n gyfrifol am dîm pêl-droed cenedlaethol Cosofo.

Federata e Futbollit e Kosovës
UEFA
[[File:|200|Association crest]]
Sefydlwyd1946
PencadlysPrishtina
Aelod cywllt o FIFA2016
Aelod cywllt o UEFA2016
LlywyddAgim Ademi

Hanes golygu

 
stadiwm Clwb Pêl-droed Prishtina

Rhwng 1946 a 2008, gweithredodd y Ffederasiwn fel pwyllgor lleol yn rhan o Ffederasiwn Pêl-droed Iwgoslafia ac, wedi cwymp gwladwriaeth Iwgoslafia, fel rhan o Ffederasiwn Pêl-droed Serbia.

Ar 7 Chwefror 2008 datganodd Kosovo ei hannibyniaeth unochrog o Serbia, ac felly daeth y Ffederasiwn yn annibynnol. Am fwy nag 8 mlynedd yn dilyn y cyhoeddiad, gwrthododd y corff pêl-droed byd-eang, FIFA rhag rhoi statwg ryngwladol i'r FFK. Datganwyd mai dim ond aelod-wladwriaethau o'r Cenhedloedd Unedig gallai ddod yn aelodau o FIFA agan nad a oedd Cosofo yn aelod o'r CU oherwydd feto Rwsia, cynghreiriad rhyngwladol Serbia.[4] Dilynodd UEFA (corff llywodraethol Ewrop) mewn peidio â chaniatáu cysylltiad hefyd.

Ym mis Chwefror 2013, tra'n parhau i beidio â chydnabod y FKK, fe awdurdododd FIFA y gallai cenedlaethol eraill (ac eithrio cyn Cenedlaethol Iwgoslafaidd) chwarae yn erbyn tîm merched Cosofo heb y perygl o sancsiynau. Ond roedd yn rhaid addo i beidio arddangos unrhyw symbol adnabod cenedlaethol (baneri a/neu anthemau cenedlaethol); flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Chwefror 2014, daeth yr un awdurdodiad i dîm y dynion. Chwaraewyd y gêm gyntaf o dan yr amodau yma ar 5 Mawrth, 2014 yn erbyn Haiti.

Ar 3 Mai 2016 penderfynnodd Gyngres flynyddol UEFA yn dilyn pleidlais o 28 - 24 o blaid, dderbyn Cosofo ymhlith ei haelodaeth. Roedd hyn yn benderfyniad dadleuol ac pherygl o adwaith gwleidyddol a diplomyddol[5], i gyfaddef Kosovo ymhlith ei aelodau gyda mwyafrif o 28 i 24 o gynrychiolwyr, ennyn adweithiau Serbia a Rwsia. Ar 13 Mai dilynodd FIFA yr un cam, gan roi cydnabyddiaethtyngwladol o'r FFK.[6]

Cynhaliwyd y gêm ryngwladol swyddogol gyntaf gan dîm cenedlaethol y dynion ar 3 Mehefin 2016 Frankfurt am Main yn Yr Almaen yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Ynysoedd Faroe lle cafwyd buddugoliaeth 2-0 i Cosofo. Cynhaliwyd gêm gyntaf tîm y menywod yn Alanya, Twrci ar 1 Mawrth 2017, lle collodd Cosofo 0-5 yn erbyn Gwlad Pwyl.

O dymor 2017-18, mae timau Kosovo yn cymryd rhan yn rowndiau cymwys rhagarweiniol Cynghrair y Pencampwyd (Champions League) a Chynghrair Europa (Europa League) UEFA.

Bydd Kosovo nawr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ac Ewrop.

Ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 bu'n rhaid i'r tîm chwarae ei gemau cartref yn Albania gan nad oedd stadiymau Cosofo yn bodloni safonau FIFA. Ymunodd Cosofo â Grwp I o gymwysedigion Cwpan y Byd 2018. Timau eraill y Grŵp oeddd: Tîm pêl-droed cenedlaethol Twrci, Tîm pêl-droed cenedlaethol Y Ffindir, Tîm pêl-droed cenedlaethol Wcrain, Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad yr Iâ, a Tîm pêl-droed cenedlaethol Croatia.

Anghydfod Tiriogaethol golygu

Mae Cosofo yn destun anghydfod tiriogaethol rhwng Gweriniaeth Cosofo a Gweriniaeth Serbia. Datganodd Gweriniaeth Cosofo ei hannibyniaeth unochrog ar 17 Chwefror 2008, ond roedd Serbia yn parhau i'w hawlio fel rhan o'i diriogaeth sofran ei hun. Dechreuodd y ddau lywodraethau normaleiddio cysylltiadau yn 2013, fel rhan o Gytundeb Brwsel. Mae Cosofo wedi derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol fel gwladwriaeth annibynnol o 113 allan o 193 o aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig.

Mae rhai clybiau pêl-droed, yn enwedig o Ogledd Cosofo, yn gwrthod cymryd rhan yn strwythurau Gweriniaeth Cosofo ac yn pharhau i fod yn rhan o Cymdeithas Pêl-droed Serbia. Rhennir cynghreiriau Serbia fewn i 10 cynghrair. Mae timau o Cosofo yn chwarae yng nghynghraid Parth Parth Morava a Chynghrair Gogledd Kosovo.

Cystadlaethau golygu

  • Vala Superliga e Kosovës (y Superleague) gyda 12 clwb, (y gynghrair genedlaethol)
    • Superliga e Femrave]] (Superleague menywod) gyda naw clwb
    • Superliga e Juniorëve (Superleague ieuenctid)
  • Liga e Parë (y Gynghrair Gyntaf) gyda 16 clwb
    • Liga e Parë e Juniorëve (Cynghrair Gyntaf iau)
      • Kategoria e fatosëve (Categori Fatos)
      • Kategoria e pionierëve (Categori Pioneers)
      • Kategoria e kadetëve (Categori Cadetiaid)
  • Liga e Dytë (yr Ail Gynghrair)
    • Liga e Dytë - Grupi i Veriut (yr Ail Gynghrair - Grŵp y Gogledd) gydag 14 clwb
    • Liga e Dytë - Grupi i Jugut (yr Ail Gynghrair - Grŵp y De) gydag 14 clwb
  • Superleague Futsal Kosovo
  • Cynghrair Gyntaf Futsal
  • Cwpan Cosofo
  • Supercup Cosofo

Cyfeiriadau golygu

  1. FIFA Will Meet KFF Delegation. Albanian Daily News. January 5, 2006. http://googlecrawl.securities.com/googlecrawler/?pc=AL&doc_id=94542349. Adalwyd 2018-03-25
  2. Menary, Steve (2007). Outcasts! : the lands that FIFA forgot. Studley: Know the Score!. ISBN 978-1-905449-31-6.
  3. New competition system approved by FFK (FFK) (May 18, 2009)
  4. "UEFA Chief Reacts to FIFA's Kosovo Decision", Balkan Insights, 23 Mai 2012; adalwyd 16 Hydref 2022
  5. James Montague, "UEFA’s Recognition of Kosovo Angers Serbs", The New York Times, 3 Mai 2016; adalwyd 16 Hydref 2022
  6. "Kosovo’s recognition by FIFA is a step towards international legitimacy", The Economist, 17 Mai 2016; adalwyd 16 Hydref 2022

Dolenni allanol golygu