Ffederasiwn Rygbi y Swistir
Ffederasiwn Rygbi y Swistir (Ffrangeg: Fédération Suisse de Rugby Eidaleg: Federazione Svizzera di Rugby Almaeneg: Schweizerischer Rugby Verband)) yw corff llywodraethol rygbi'r undeb yn y Swistir. Mae hefyd yn gyfrifol am rygbi Leichtenstein. Sefydlwyd yn 1971 ac mae'n aelod o'r Bwrdd Rygbi Ryngwladol, yr IRB. Ceir dros 50 clwb a 150 tîm gan gynnwys rygbi merched a 7 bob ochr.
Fédération Suisse de Rugby | |
---|---|
Pencadlys | 3, Pavillonweg P.O. box 7705 Bern 3012 Swistir |
Sefydlwyd | 1972 |
Aelodaeth IRB | 1988 |
Aelodaeth FIRA | 1975 |
Llywydd | Peter Schüpbach |
Hyfforddwr Dynion | Patrice Philippe |
Hyfforddwr Menywod | Frederique Meyer |
Gwefan Swyddogol | suisserugby.com |
Strwythur
golyguYn gyfredol, mae'n gyfrifol am redeg cynghreiriau cenedlaethol A, B, C a Chynghrair 1[1] national championships. Mae'r prif dimau yn cystadlu yng Nghwmap Swistir yng Nghynghrair A. Y timau ar gyfer tymor 2012-13 oedd a ganlyn:
- Grasshoppers Club Zürich [2]
- Hermance Région Rugby Club [3]
- Lausanne Université Club Rugby [4]
- Nyon Rugby Club [5]
- Stade Lausanne Rugby Club [6]
- Rugby Club Avusy [7]
- Rugby Club Genève Plan-les-Ouates [8]
- UMB Rugby Lugano[9]
Hanes
golyguCeir cofnodion o chwarae rygbi yn ninas Genefa yn 1869 ond araf bu'r datblygiad. Torwyd ar draws unrhyw dwf gan y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna'r Ail Ryfel Byd, er i dimau o Loegr a Gwlad Belg chwarae yn y wlad rhwng 1935 ac 1940. Ail-ddechreuwyd chwarae rygbi o ddifri yn 1958 ac yn 1972 sefydlwyd Federasiwn Rygbi y Swistir. Yn 1974 ymunodd y Ffederasiwn â FIRA (Fédération Internationale de Rugby Amateur).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhennir Cynghrair 1 i ddwy adran, Gorllewin a Dwyrain
- ↑ "Grasshopper Club Zürich (GC) - Sektion Rugby: Startseite". Gc-rugby.ch. Cyrchwyd 2012-09-06.
- ↑ "HRRC Website". Hrrc.ch. Cyrchwyd 2012-09-06.
- ↑ "LUC Rugby EPFL - Lausanne Rugby". Lucrugby.epfl.ch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-23. Cyrchwyd 2012-09-06.
- ↑ "Nyon Rugby Club Switzerland. The Rugby Club between Lausanne and Geneva. Suisse". Nyonrugby.ch. Cyrchwyd 2012-09-06.
- ↑ "Stade Lausanne Rugby - Home page". Stadelausannerugby.com. Cyrchwyd 2012-09-06.
- ↑ "Popup". Rcavusy.ch. Cyrchwyd 2012-09-06.
- ↑ "School of Rugby - Recovery TRAININGS - Tuesday, September 4". Rcgeneve.ch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-18. Cyrchwyd 2012-09-06.
- ↑ "UMB Rugby Lugano". www.rugbylugano.ch. Cyrchwyd 2015-11-13.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Fédération Suisse de Rugby - gwefan swyddogol