Ffilm yng Nghanada

Dangoswyd ffilm am y tro cyntaf yng Nghanada yn 1896 yn Quebec. Trefnwyd y dangosiad gan Louis Minier a Louis Pupier, gan ddefnyddio sinematograff.[1] Cynhyrchwyd rhai o'r ffilmiau cyntaf a wnaed yng Nghanada gan James Freer, a brynodd gamera Edison a thaflunydd a dechrau ffilmio gweithgareddau amaethyddiaeth a threnau'r Canadian Pacific Railway ym 1897.[2]

Ffilm yng Nghanada
Enghraifft o'r canlynolbyd ffilmiau yn ôl gwlad neu ranbarth Edit this on Wikidata
Rhan obyd celf yng Nghanada Edit this on Wikidata
LleoliadCanada Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFilm industry in Hamilton, Ontario Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd Bwrdd Ffilm Cenedlaethol Canada gan y llywodraeth ffederal ym 1939 i gynhyrchu ffilmiau, stribedi ffilm, a ffotograffau sy'n darlunio bywyd, diwylliant a meddwl Canada ac i'w dosbarthu ar draws y wlad ac i wledydd tramor. Daeth Canada i'r amlwg fel un o brif wneuthurwyr ffilmiau dogfen y byd. Ym 1967 sefydlodd y llywodraeth Gorfforaeth Ddatblygu Ffilmiau Canada i feithrin ac hyrwyddo diwydiant ffilmiau'r wlad drwy fenthyg arian i gynhyrchwyr a buddsoddi mewn ffilmiau hir

Mae Canada yn gartref i sawl gŵyl ffilm, gan gynnwys Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Vancouver, Gŵyl Ffilmiau'r Byd Montréal, a Gŵyl Ffilmiau Whistler. Mae Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff yn canolbwyntio ar ffilmiau sy'n ymwneud â mynyddoedd, gan gynnwys fforio, chwaraeon ac anturio, bywyd mynyddig, a'r amgylchedd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Pallister, Janis (1995). The Cinema of Quebec: Masters in Their Own House (yn Saesneg). Associated University Presses. ISBN 0838635628.
  2. Morris, Peter, gol. (1978). Embattled Shadows: A History of Canadian Cinema 1895-1939 (yn Saesneg). McGill–Queen's University Press. ISBN 9780773560727.
  Eginyn erthygl sydd uchod am sinema Canada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.