Ffion Morgan
Pêl-droediwr Cymreig yw Ffion Alys Morgan (ganwyd 11 Mai 2000) sy'n chwarae dros Bristol City a thîm cenedlaethol merched Cymru fel chwaraewr canol cae[1]. Dechreuodd ei gyrfa gyda Rhydaman a Dinas Caerdydd, cyn ymuno â Coventry United yn 2019. Ymddangosodd yn ei gêm ryngwladol gyntaf dros Gymru yn 2017.
Ffion Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mai 2000 Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Chwaraeon | |
Safle | canolwr |
Bywyd cynnar
golyguMynychodd Morgan Ysgol Tre-Gib yn Llandeilo yn ei harddegau.[2]
Gyrfa clwb
golyguDechreuodd Morgan chwarae pêl-droed yn bedair oed i dîm ieuenctid lleol Saron Juniors. Yn 11 oed, ymunodd â Merched Rhydaman. Wedyn, ymunodd Morgan â Chaerdydd ond roedd yn absennol o'r ymgyrch 2017-18 ar ôl iddi ddioddef anaf difrifol yn ystod gêm ryngwladol dros dîm dan-19 Cymru.[3][4] Ym Medi 2019, ymunodd â thîm Pencampwriaeth Merched FA Coventry United.[5] Wedyn, yng Ngorffennaf 2020, ymunodd â Crystal Palace.[6]
Gyrfa ryngwladol
golyguMae Morgan wedi cael ei chapio dros dîm cenedlaethol Cymru, gan ymddangos ar gyfer y gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2019. [7] Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf i'r garfan hŷn yn erbyn Gogledd Iwerddon yn 2017.[3]
Bywyd personol
golyguMae Morgan yn ddwyieithog, ac yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg. Mae ganddi hefyd Drwydded B UEFA mewn hyfforddi.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "24. FFION MORGAN". Bristol City (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-14. Cyrchwyd 14 Medi 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "How this Wales international is inspiring new girls to fall in love with football" (yn Saesneg). Football Association of Wales Trust. 8 Mawrth 2019. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
- ↑ 3.0 3.1 Ellis, Callum (30 Awst 2018). "Ffion Morgan explains why getting back on track after ACL injury means so much". Exposport. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
- ↑ Hadley, Craig (17 Awst 2019). "Welsh teenager Ffion Morgan joins Coventry United". Midlands WOSO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-27. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
- ↑ "Coventry United Sign Ffion Morgan". South Wales Guardian. 11 September 2019. Cyrchwyd 26 March 2020.
- ↑ "Ffion Morgan joins Crystal Palace Women". Crystal Palace F.C. 17 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
- ↑ "Women World Cup Qualifiers Europe 2017/2018 » Teams (Wales)". WorldFootball.net. Cyrchwyd 29 August 2019.
Dolenni allanol
golygu- Ffion Morgan ar Worldfootball.net
- Ffion Morgan ar Soccerway (1)
- Ffion Morgan ar Soccerway (2)