Cardiff City Ladies F.C.

clwb pêl-droed merched Caerdydd (nid i'w gymysgu â C.P.D. Merched Dinas Caerdydd sy'n gysylltiedig â thîm proffesiynol y dynion.

Mae Cardiff City Ladies F.C. yn glwb pêl-droed i ferched yn ardal Caerdydd. Er symlrwydd, cyfeirir at y clwb yma (Cardiff City Ladies F.C.) wrth eu henw Saesneg yn unig rhag eu drysu â C.P.D. Merched Dinas Caerdydd sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru. Mae CCLFC n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Merched FA Lloegr ond maent hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Pêl-droed Merched Cymru a nhw yw'r tîm mwyaf llwyddiannus erioed yn y twrnamaint.

Cardiff City Ladies
Enw llawnCardiff City Ladies Football Club
Sefydlwyd1975; 49 blynedd yn ôl (1975), fel Llanedeyrn LFC
MaesCCB Centre for Sporting Excellence, Ystrad Mynach[1]
ChairMichele Adams MBE[2]
RheolwrJames Fishlock[3]
CynghrairNodyn:English football updater-W
Nodyn:English football updater-WNodyn:English football updater-W
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Ddim i'w gymysgu â Cardiff City F.C. (women) Clwb Pêl-droed Merched Dinas Caerdydd sef y clwb ar wahân sy'n gysylltiedig â chlwb dynion C.P.D. Dinas Caerdydd ac sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru

Hanes golygu

Sefydlwyd y clwb ym 1975 fel Llanedeyrn Ladies Football Club ar ôl gêm elusennol leol. Yn 1981 newidiwyd yr enw i Cardiff Ladies Football Club, ac ym 1993 cysylltodd y clwb ag C.P.D. Inter Caerdydd (clwb nad sy'n bodoli bellach ond a oedd yn un o brif glybiau Cynghrair Cymru (dynion) yn yr 1990au) a dechrau chwarae yn Stadiwm Athletau Caerdydd. Yn 1997, daeth y cysylltiad ag Inter Caerdydd i ben a newidiodd y clwb ei enw i Glwb Sir Caerdydd wrth gysylltu â Chyngor Sir Caerdydd. Yn 2001 dechreuodd y clwb bod yn gysylltiedig â C.P.D. Dinas Caerdydd, y clwb dynion proffesiynol o'r un ddinas.

Ar ddechrau tymor 2003, fodd bynnag, torrodd y clwb ei gysylltiad â endyd gwrywaidd pan bleidleisiodd ei aelodau yn erbyn cynigion y clwb dynion. Daeth y clwb, unwaith eto, yn glwb annibynnol. Er eu bod yn cael cadw defnyddio'r enw 'Cardiff City' a lliwiau cit, mae'r arfbais yn wahanol iawn, ac nid ydyn nhw bellach yn defnyddio'r llysenw enwog 'Bluebirds' (er bod cyfryngau fel BBC Sport yn cyfeirio atynt o hyd), gan ymgorffori'r ddraig goch Cymru yn lle.

Yn 2006 enillodd Cardiff City Ladies F.C. Adran Ddeheuol Uwch Gynghrair Merched Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA Women's Premier League Southern Division) a chawsant eu dyrchafu i'r "National Division" am y tro cyntaf. Wedi iddynt ddisgyn adran yn nhymor 2007–08, cafodd y clwb ei ddyrchafu nôl i'r National Division yn 2010–11.[4]

Cwpan Pêl-droed Merched Cymru golygu

 
CCLFC (glas) sydd wedi dominyddu Cwpan Pêl-droed Merched Cymru

Oherwydd bod CCLCF wedi ennill Cwpan Pêl-droed Merched Cymru, mae'r clwb wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ac maent wedi cystadlu sawl gwaith yng Nghwpan Merched UEFA (Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA). Mae felly ganddynt hawl nad oes gan y tîm dynion sydd methu cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru bellach.

Cartref golygu

Dydy'r clwb bellach ddim wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Maes cartef y clwb bellach yw, Canolfan Chwaraeon CCB yn Ystrad Mynach, Hengoed ger Caerffili sydd i'r gogledd o'r Brifddinas.[5]

Strwythur golygu

Mae'r clwb yn cynnwys sawl haen ar gyfer chwaraewyr - tîm datblygu sy'n chwarae yn yr FA Midland's Development League; Dan-16 sy'n chwarae yng Nghynghrair Menywod a Merched De Cymru; Dan-14 a Dan-13 sydd ill dau hefyd yn chwarae yn y Gynghrair i Dde Cymru.[6]

Carfan Tîm Cyntaf golygu

Diweddarwyd 15 July 2020.[7]

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr
  Laura O'Sullivan
  Poppy Soper
  Chelsea Jumratie
  Amina Vine
  Shannon Greenway
  Gwennan Davies
  Kelly Isaac
  Hannah Miles
  Cerys Jones
Rhif Safle Chwaraewr
  Josie Longhurst
  Nadia Lawrence
  Nia Rees
  Morgan Rogers (footballer)
  Cori Williams (captain)
  Jasmine Simpson
  Grace Horrell
  Kylie Nolan
  Loren Dykes

Anrhydeddau golygu

Record yn Ewrop - cystadlaethau UEFA golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Home Ground". Cardiff City Ladies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-13. Cyrchwyd 12 July 2020.
  2. "Queens honours: Michele Adams enjoys MBE 'career highlight'". BBC News. 16 June 2017. Cyrchwyd 12 July 2020.
  3. "Cardiff City Ladies Welcome a New Coaching TeaM". Cardiff City Ladies. 10 July 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-07. Cyrchwyd 12 July 2020.
  4. "Cardiff City Ladies win promotion". BBC. 8 May 2011. Cyrchwyd 18 May 2011.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-13. Cyrchwyd 2020-08-28.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-07. Cyrchwyd 2020-08-28.
  7. "Women's First Team". Cardiff City Ladies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 12 July 2020.
  8. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-08. Cyrchwyd 2016-04-21.CS1 maint: archived copy as title (link)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.