Ffiseg glasurol
Enw ar feysydd ffiseg a gawsant eu fformiwleiddio cyn datblygiadau damcaniaeth perthnasedd a mecaneg cwantwm yn yr 20g yw ffiseg glasurol. Sail ffiseg glasurol yw'r pedair ddamcaniaeth fawr: mecaneg glasurol, electromagneteg, thermodynameg, a mecaneg ystadegol. Ni phrofai'r damcaniaethau hyn yn anghywir gan ddarganfyddiadau cyfoes; yn hytrach maent yn ddilys o hyd o dan amodau penodol. Er enghraifft, mae perthnasedd yn disodli mecaneg glasurol yn achos gronynnau sy'n symud yn agos at fuanedd golau.
Enghraifft o'r canlynol | cangen o ffiseg |
---|---|
Y gwrthwyneb | ffiseg fodern |
Rhan o | ffiseg |
Yn cynnwys | dynameg corff anhyblyg |
Mecaneg glasurol
golygu- Prif: Mecaneg glasurol
Defnyddir mecaneg glasurol i ddisgrifio mudiant gwrthrychau macrosgopig o taflegrynnau i rhannau peiriannau ffatri, yn ogystal â gwrthrychau seryddiaethol megis gwennol ofod, planedau, ser a galaethau. Mae'n cynhyrchu canlyniadau dibynnadwy o fewn y parthau yma, ac mae'n un o'r pynciau fwyaf yn gwyddoniaeth, peirianneg a techoleg. Mae'n crybwyll deddfau mudiant Newton yn ogystal â damcaniaethau mecaneg Joseph-Louis Lagrange a William Rowan Hamilton.
Electromagneteg
golygu- Prif: Electromagneteg
Yr astudiaeth o egni rhyngweithiol ydy electromagneteg, yr egni sy'n achosi rhyngweithio rhwng gronynnau sydd wedi'u gwefru'n drydanol. Mae electromagnetedd yn rym sy'n gweithio rhwng moleciwlau mater pob eiliad o'r dydd. Dyma hefyd y grym sy'n cynnal electronau a phrotonau gyda'i gilydd o fewn yr atom. Gwelwn ef ar waith mewn trydan a magnedau, sy'n ddwy agwedd wahanol o electromagneteg, ond sydd yn perthyn i'w gilydd yn agos iawn.
Thermodynameg
golygu- Prif: Thermodynameg
Mae thermodynameg yn ymwneud â gwres a thymheredd a'u perthynas i ynni a gwaith. Mae'n diffinio newidiadau macrosgopig megis egni mewnol, entropi a gwasgedd, sy'n disgrifio corff o fater neu ymbelydredd. Mae thermodynameg yn nodi fod y newidiadau hyn yn cael eu rheoli gan gyfyngiadau cyffredinol, a bod y cyfyngiadau hyn yn wir am bob mater. Mynegir y cyfyngiadau hyn gan bedair rheol euraidd thermodynameg. Does a wnelo thyrmodynameg ddim iot ag ymddygiad microsgopig mân bethau megis moleciwlau, ond yn hytrach mae'n canolbwyntio ar ymddygiad y corff cyfan. Mae'n astudiaeth o'r trawsnewidiad o egni gwres i ffurfiau gwahanol o egni (yn enwedig ffurfiau mecanyddol, cemegol, ac ynni trydanol).
Mecaneg ystadegol
golygu- Prif: Mecaneg ystadegol
Mae mecaneg ystadegol yn ymwneud â darogan nodweddion mesuradwy systemau aml-gorff, drwy astudio tebygolrwydd ymatebiad gronynnau cyfansoddol at ei gilydd. Gall y gronynau cyfansoddol gynnwys atomau, molecylau, ffotonau ac eraill. Mae'r maes yn cynnig dolen rhwng stadau microsgopig a macrosgopig.
Yn gynhwysiedig yn y maes mae ystadegau Fermi-Dirac a Bose-Einstein.