Fflamio
(Ailgyfeiriad o Fflamio - Gwobr Goffa Daniel Owen 1999)
Nofel gan Ann Pierce Jones yw Fflamio a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1999. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Ann Pierce Jones |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Awst 1999 |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9781859027097 |
Tudalennau | 244 |
Genre | Nofelau Cymraeg |
Disgrifiad
golyguNofel yn portreadu gwraig a mam ifanc wrth iddi chwilio am gymorth i wynebu dirywiad yn ei phriodas ac ofn y gallai gam-drin ei merch.
Camdrin gorfforol plant yw ei phrif thema. Mae'n nofel realaidd sydd hefyd yn trafod priodasau cymysg eu hil. Un is-thema yw cadw Cymreictod yn Lloegr - sy'n deillio o brofiad yr awdures tra'n magu ei phlant yn Llundain. Athrawes ac Ymgynghorydd Addysg yn Ne Llundain yw'r awdur.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013