Ffliw moch
(Ailgyfeiriad o Ffliw'r moch)
Am y pandemig cyfredol, gweler pandemig ffliw 2009.
Clefyd mewn moch fel arfer o'r is-deip ffliw H1N1 yw ffliw moch. Yn anaml trosglwyddir ffliw moch i fodau dynol, ond weithiau gall bobl sydd wedi cael cysylltiad agos â moch gael eu heintio.[1]
Achoswyd pandemig ffliw moch 2009 gan feirws H1N1.[1]
Symptomau
golyguI raddau helaeth, yr un yw symptomau ffliw moch â symptomau ffliw arferol, ond gallant fod yn fwy llym ac achosi cymhlethdodau mwy difrifol. Twymyn sydyn a pheswch sydyn yw'r symptomau nodweddiadol. Gall symptomau eraill gynnwys cur pen, blinder, oerfel, cyhyrau dolurus, poen yn y breichiau a'r coesau neu yn y cymalau, dolur rhydd neu stumog dost, dolur gwddf, trwyn diferllyd, tisian, a cholli archwaeth bwyd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Ffliw Moch: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
- ↑ Ffliw Moch: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.