Ffordd osgoi Rhuddlan

Rhan o briffordd yr A525 ger Rhuddlan ydy Ffordd osgoi Rhuddlan.

Pont a adeiladwyd er mwyn cario'r ffordd osgoi ar draws Afon Clwyd
Mẁg sy'n dathlu agoriad y ffordd osgoi, gyda llun o Gastell Rhuddlan

Cafwyd trafodaeth yn San Steffan yn Chwefror 1992 am fanteision posib i drefi Y Rhyl a Phrestatyn yn sgîl ffordd osgoi, gan y byddai'n gwella'r mynediad i dwristiaid i'r arfordir.[1] Cafodd y prosiect ei gadarnhau'n swyddogol yn 1993.[2] Yn 1996, cafodd Cyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb am y prosiect. Ym mis Chwefror 1997, pan nad oedd y ffordd wedi'i hagor eto, bu cwestiwn pellach yn San Steffan am ddyddiad tebygol yr agoriad, ac Ebrill neu Fai oedd yr ateb.[3] Cafodd ei hagor yn niwedd mis Gorffennaf 1997.

Cyfeiriadau

golygu