Ffordd y Môr, Aberystwyth
Mae Ffordd y Môr (Saesneg: Terrace Road) yn un o brif strydoedd masnachol Aberystwyth.
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.415944°N 4.083575°W |
Mae'n rhedeg bron yn unionsyth o du allan i orsaf Aberystwyth i'r môr. Mae sawl stryd arall yn torri ar draws Ffordd y Môr o'r dwyrain i'r gorllewin gan gynnwys, Rhodfa'r Gogledd a Stryd Portland.
Hanes
golyguEnwir Ffordd y Môr, neu'n hytrach "Terrace Road" yn 1834[1]. Y pryd hynny, rhanwyd y ffordd yn Terrace Road (North) a Terrace Road (South). Nodir yn 1889 i Terrace Road (South) gael ei henwi'n Mary's St ond newidiwyd hi nôl i Terrace Road erbyn 1905.
Adnabwyd yr ardal gwastad wrth droed allt y Stryd Fawr a tu hwnt i hen ffiniau Oesoedd Canol y dref yn Morfa Swnd ac arferai fod yn rhan o dir comin y dref. Ond erbyn y 19g roedd pwysau mawr ar Gorfforaeth Aberystwyth o du stadau teuluoedd Powell o Nanteos a Pryse o Gogerddan i wethu'r tir a'i ddatblygu ar gyfer aneddau a masnach.[2]. Yn ôl adroddiad Llys Lît Aberystwyth, 1813, "We the jury direct that part of the waste land called Morfa Swnd be mapped and divided into convenient plots for buildings."[3]
Datblygwyd Ffordd y Môr a Ffordd Alexandra (Alexandra Rd) gyda dyfodiad y rheilffordd i'r dref yn yr 1860au. Gyda dyfodiad y rheilffordd, symudodd calon masnachol y dref tuag at Ffordd y Môr a gwelwyd adeiladu adeiladau newydd pwrpasol fel Banc Barclays, corneli strydoedd Ffordd Alexandra, Cambrian Place, Sgwâr Glyn Dŵr/Rhodfa'r Gogledd gyda phensaerniaeth hyderus a phwrpsol.
Nodweddion
golyguCeir nifer o sefydliadau masnachol pwysicaf Aberystwyth a'r cylch ar hyd Ffordd y Môr. Yn ei mysg mae:
- Banc Lloyds
- Banc Barclays (ar y gornel â Sgwâr Owain Glyndŵr
- Cymdeithas Adeiladu'r Principality
- Siop y Pethe
- Amgueddfa Ceredigion
- siopau cadwyn
- tafarndai, caffes, a siopau annibynnol
Darllen pellach
golygu[1] Archifwyd 2015-09-14 yn y Peiriant Wayback Aberystwyth: Understanding Urban Character, cyhoeddwyd gan CADW
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://archifdy-ceredigion.org.uk/uploads/aberystwyth_street_names_table_for_website.pdf
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-14. Cyrchwyd 2018-05-23.
- ↑ http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf Archifwyd 2015-09-14 yn y Peiriant Wayback dyfyniad yn yr erthygl o lyfr Goerge Eyre Evans, Aberystwyth and its Court Leet (Aberystwyth, 1902).