Siop y Pethe
Siop lyfrau Cymraeg yn Aberystwyth yw Siop y Pethe. Mae'n gwerthu nwyddau Cymraeg a Chymreig gan gynnwys llyfrau, cardiau cyfarch, a CDau.
Math | cwmni cyfyngedig, siop lyfrau Cymraeg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Delweddau allanol | |
---|---|
Siop y Pethe o'r stryd | |
Siop y Pethe yn yr eira | |
Y tu mewn i Siop y Pethe |
Agorwyd gan Gwilym a Megan Tudur ar gornel Sgwâr Glyn Dŵr yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 1968.[1] Ystyr "y Pethe" yw'r cyfuniad o werthoedd a diddordebau sy'n ymgorffori diwylliant traddodiadol Cymru,[2] ac yn ôl Gwilym roedd yr ymadrodd hwn yn "enw’r cyfnod ar bopeth Cymraeg o bwys" yn ystod y frwydr dros yr iaith yn y 1960au.[3] Agorodd nifer o siopau Cymraeg tebyg ar draws Cymru, ac yn ôl Gwilym Siop y Pethe oedd y siop Gymraeg fodern gyntaf gan iddi werthu recordiau, cardiau a phosteri yn ogystal â llyfrau. Roedd Siop y Pethe hefyd yn lleoliad swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar ddechrau'r 1970au.[1]
Penderfynodd Gwilym a Megan werthu'r busnes yn 2013 ar ôl 45 mlynedd wrth y llyw, gan roi'r siop ar werth am £445,000. Roedd Gwilym Tudur (bu farw yn 2024) yn awdur ac ei fwriad oedd ail-gydio yn ei yrfa ysgrifennu wedi gwerthu'r siop.[1] Prynwyd y siop gan Aled Rees yn 2015. Ym Mawrth 2024, cyhoeddwyd y byddai'r siop ar y stryd yn cau a'r busnes yn newid i werthu ar-lein yn unig. Roedd hyn yn dilyn cynnydd mewn costau o ran morgais, tanwydd a llai o bobl yn mynychu'r siop.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Siop y Pethe yn Aberystwyth: Diwedd 'oes y Tuduriaid'. BBC (4 Ebrill 2013). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014.
- ↑ peth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014. Yn dyfynnu Meic Stephens, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986).
- ↑ Chwilio am brynwr i siop lyfrau eiconig. Golwg360 (4 Ebrill 2013). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014.
- ↑ "Siop y Pethe yn Aberystwyth i werthu ar-lein yn unig". BBC Cymru Fyw. 2024-03-01. Cyrchwyd 2024-06-12.
Dolenni allanol
golygu- Siop y Pethe - siop ar-lein.
- Siop y Pethe Archifwyd 2014-11-22 yn y Peiriant Wayback ar wefan Y Fasnach Lyfrau Ar-lein
- Siop y Pethe[dolen farw] ar wefan Y Lolfa
- [1] Archifwyd 2016-04-11 yn y Peiriant Wayback Siop Y Pethe - Saesneg
- [2] Archifwyd 2016-04-11 yn y Peiriant Wayback Siop Y Pethe - Cymraeg