Fformiwla Barnett
Mae Fformiwla Barnett yn fecanwaith a ddefnyddir gan Drysorlys y Deyrnas Gyfunol i addasu symiau gwariant cyhoeddus a ddyrennir i Ogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Chymru yn awtomatig i adlewyrchu newidiadau yn y lefelau gwariant a ddyrennir i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn Lloegr a Chymru neu ym Mhrydain Fawr, fel y bo'n briodol. Mae'r fformiwla'n berthnasol i gyfran fawr, ond nid y cyfan, o gyllidebau llywodraethau datganoledig. Er enghraifft, yn 2013-14 roedd yn berthnasol i oddeutu 85% o gyfanswm cyllideb Senedd yr Alban.[1]
Math o gyfrwng | fformiwla |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1978 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Enwir y fformiwla ar ôl Joel Barnett, a ddyfeisiodd hi ym 1978 tra’n Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, fel ateb tymor byr i fân anghydfodau Cabinet yn y cyfnod cyn datganoli gwleidyddol a gynlluniwyd ym 1979. Er gwaethaf methiant y fenter honno, cadwyd y fformiwla i hwyluso datganoli gweinyddol ychwanegol yn llywodraethau Ceidwadol 1979 i 1997 o dan y prif weinidogion Margaret Thatcher a John Major, ac yna yng nghyd-destun datganoli gwleidyddol y llywodraethau Llafur dan arweiniad Tony Blair a Gordon Brown, a chlymblaid llywodraeth David Cameron. Mae'r llywodraeth bresennol yn parhau i'w ddefnyddio fel sail ar gyfer ariannu'r tair llywodraeth arall.
Dywedir nad oes gan fformiwla Barnett "unrhyw statws cyfreithiol na chyfiawnhad democrataidd", a chan mai confensiwn yn unig ydyw, gall y Trysorlys ei newid ar unrhyw adeg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Joel Barnett ei hun wedi ei alw'n “gamgymeriad ofnadwy”.[2] Yn 2009, daeth Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Fformiwla Barnett i’r casgliad “na ddylid defnyddio Fformiwla Barnett mwyach i bennu codiadau blynyddol yn y grant bloc ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig y Deyrnas Unedig ... Dylid cyflwyno system newydd sy’n dyrannu adnoddau i’r gwledydd datganoledig ar sail asesiad penodol o'u hanghenion cymharol."[3]
Dull Cyfrifo
golyguDim ond gwariant mewn meysydd y mae Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol amdanynt sy'n cael ei ystyried. Pan fo gwariant yn y meysydd hyn yn cynyddu yn Lloegr, mae'r swm sy'n cael ei drosglwyddo i'r llywodraethau datganoledig yn newid gan adlewyrchu hynny. Er hynny, grant bloc yw'r arian, felly'r llywodraethau datganoledig sy'n penderfynu ym mha faes i'w wario. Oni bai fod arian yn cael ei ddal yn ôl (gw. isod), ystyrir ei fod yn berthnasol i'r fformwla. Mewn meysydd megis iechyd, cyfrifir fel hyn er enghraifft:
- Cyllid ychwanegol yng Nghymru = Cyllid ychwanegol yn Lloegr × Cyfran poblogaeth Cymru o gymharu â Lloegr ×
- Y raddau y mae rhaglen GIG Lloegr yn berthnasol i wasanaethau GIG Cymru
Gan mai newidiadau yn unig mae'r fformiwla'n eu hystyried, mae cyfanswm yr arian mae'r Llywodraethau'n eu derbyn yn dal i adlewyrchu ffigyrau o'r oes cyn datganoli nad oeddynt yn gyfrannol i faint poblogaeth.
Gwariant wedi'i ddal yn ôl
golyguMae peth gwariant, y bernir ei fod er budd y DU gyfan, yn cael ei ddal yn ôl gan Drysorlys y DU a dyrennir y gweddill yn ôl Fformiwla Barnett. Yn 2020 roedd y rhain yn cynnwys amddiffyn (£42.2 biliwn), y Teulu Brenhinol (£67 miliwn[4]) adnewyddu Palas Westminster (£4 biliwn), a HS2 (prosiect Lloegr yn unig; dros £100 biliwn). Llywodraeth San Steffan sy'n penderfynu ar y symiau hyn, a dyrennir yr hyn sy'n weddill i'r pedair gwlad o dan Fformiwla Barnett.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Barnett Formula definition in Scottish Draft Budget 2013–14 www.scotland.gov.uk
- ↑ "My funding formula for Scotland is a 'terrible mistake', Lord Barnett admits". Telegraph.co.uk. 16 Medi 2014. Cyrchwyd 13 Hydref 2016.
- ↑ "HoL Select Committee on the Barnet Formula, Summary, paragraffau 4 a 6". publications.parliament.uk.
- ↑ "Taxpayers in the United Kingdom,on the previous financial year". Statista. Cyrchwyd 27 Ionawr 2021.