Yn y byd gwyddonol, dull o gyfrifo a chyfleu gwybodaeth (yn aml drwy nodiant mathemategol) yw fformiwla e.e. fformiwla cemegol. Mae'n enw benywaidd; y lluosog yw fformiwlâu. "Ffurf bychan" (Lladin: fōrma +‎ -ulus.) yw tarddiad y gair a thrwy ddefnyddio symbolau, neu nodiant fathemategol, mae'r fformiwla yn ddull, neu'n iaith, llawer mwy cynnil na phe ddefnyddid testun.

Sffêr
Isobiwtan
Chwith: sffêr, gyda'i gyfaint wedi'i roi ar ffurf y fformiwla V = 4/3 π r3.
Dde: y cyfansoddyn isobiwtan, a'i fformiwla cemegol: (CH3)3CH.

Er enghraifft, er mwyn canfod cyfaint sffêr, defnyddir calcwlws integrol neu geometreg a'i ddulliau disbyddu (method of exhaustion);[1] ond, wedi gwneud hyn uwaith yn nhermau'r pararmdrau (e.e. y radiws), gellir disgrifio'r cyfaint mewn modd cynnil a ellir ei gymhwyso i ganfod cyfaint unrhyw sffêr, cyn belled a bod y radiws yn wybyddus:

.

Yma, y cyfaint yw V a'r radiws yw r, sef byrfoddau o volume a 'radiws', dull mwy cynnil na phe sgwennid y geiriau llawn. Mae'r dull yma o gywasgu ystyron i symbolau'n caniatau i fathemategwyr drin a thrafod fformiwlâu llawer mwy cymhleth yn gynt o lawer.[2] Mae fformiwlâu mathemategol, felly, yn aml yn fynegiadau algebraidd caeedig ac/neu yn ddadansoddol.[3]

Mewn cemeg fodern, mae fformiwla gemegol yn ffordd o fynegi gwybodaeth am gyfrannau atomau mewn cyfansoddyn cemegol penodol. Gwneir hyn drwy ddefnyddio llinell sengl o symbolau yr elfennau cemegol, rhifau, ac weithiau symbolau eraill, megis cromfachau, adio (+) a thynnu (-) neu π (pi). Er enghraifft,

H2O

yw'r fformiwla am ddŵr. Yma, mae'r dynodir fod gan y moleciwl ddwy atom o hydrogen (H) ac un atom o ocsigen (O). Enghraifft arall yw

O3

sy'n dynodi un moleciwl o osôn, sef tair atom o ocsigen, gyda gwefr negatif.

Yn y cyd-destun ehangach, mwy cyffredinol, mae rhai fformiwlâu'n cynnig atebion i broblemau mwy ymarefrol, mwy real e.e.

F = ma

yw'r mynegiant o ail ddeddf Newton, a gellir ei gymhwyso i ystod eang iawn o sefyllfaoedd gwahanol.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Smith, David E. (1958). History of Mathematics. New York: Dover Publications. ISBN 0-486-20430-8.
  2. "Why do mathematicians use single letter variables?". math.stackexchange.com. 28 Chwefror 2011. Cyrchwyd 31 Chwefror 2013. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. "List of Mathematical formulas". andlearning.org. 24 Awst 2018.