Ffransis II, Dug Llydaw

Dug Llydaw oedd Ffransis II (23 Mehefin 14359 Medi 1488).[1] Roedd yn fab i Richard o Lydaw a Marguerite, Cowntes Vertus. Roedd yn Ddug Llydaw rhwng 1458 a'i farwolaeth yn 1488. Priododd ddwywaith: y tro cyntaf i'w gyfnither Marged (1469 - 1500) a oedd yn ferch i Francis 1af a'r ail dro i Farged Foix (1449 - 1486) a oedd yn ferch i Elinor o Navarre o Sbaen a'r Brenin John II o Aragon. Un ferch yn unig a oroesodd yn oedolyn: Anna, Duges Llydaw, ond cafodd dau fab gyda'i feistres Antoinette de Maignelais.

Ffransis II, Dug Llydaw
Ganwyd23 Mehefin 1435 Edit this on Wikidata
Château de Clisson Edit this on Wikidata
Bu farw9 Medi 1488 Edit this on Wikidata
Koeron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
TadRichard, Count of Étampes Edit this on Wikidata
MamMarguerite, Countess of Vertus Edit this on Wikidata
PriodMargaret of Brittany, Margaret of Foix Edit this on Wikidata
PartnerAntoinette de Maignelais Edit this on Wikidata
PlantFrancesc I d'Avaugour, François de Dreux, Antoine de Maignelais, Françoise de Maignelais, Anna, Duges Llydaw, Isabeau o Lydaw Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Dreux Edit this on Wikidata

Roedd ei fywyd yn un brwydr ar ôl y llall gyda Louis XI, brenin Ffrainc a'i fab Siarl. Cafwyd cytundeb tra phwysig o'r enw Cytundeb Chateaubriant, a arwyddwyd yn 1487, a gadarnhaodd statws Llydaw fel gwlad annibynnol ond trechwyd François ym Mrwydr Saint-Aubin-du-Cormier. Yn dilyn y frwydr hon, collodd lawer o'i diroedd a'r hawl i briodi ei blant i bobl o'i ddewis ef yn unol â Chytundeb Sablé. Gan frenin Ffrainc, bellach, oedd yr hawl i ddewis cymar, a phan bu Ffransis farw ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn Couëron, Brenin Ffrainc ddewisodd cymar i Anna. Dewisodd ei fab ei hun, sef Siarl VIII, ac yna Louis XII.

Siasbar a Harri Tudur golygu

Francis II a roddodd loches i Siasbar Tudur a'i nai pedair ar ddeg oed Harri (a ddaeth rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn Frenin Lloegr). Roeddent wedi dianc o grafangau Edward IV a oedd newydd gipio Coron Lloegr ym Mrwydr Tewkesbury yn 1471. Ceisiodd Edward IV, a oedd o deulu'r Iorciaid 'brynnu' Siasbar a Harri ar sawl achlysur, er mwyn dod â bygythiad y Lancastriaid i ben unwaith ac am byth. Rhoddodd Louis XI, Brenin Ffrainc, gryn bwysau arno, hefyd, i drosglwyddo'r ddau iddo, gan ei fod yn gefnder cyntaf i Siasbar. Penderfyniad Ffransis yn 1474 oedd gwahanu'r ddau gan drosglwyddo Siasbar i Gastell Josselin, 25 milltir o Gwened (Vannes) lle y bu tan 1475 a Harri i 'Gastell yr Un Tŵr ar Ddeg' (Ffrangeg: Château de Largoët), dan ofalaeth Jean de Rieux.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Susan Groag Bell (29 November 2004). The Lost Tapestries of the City of Ladies: Christine de Pizan’s Renaissance Legacy (yn Saesneg). University of California Press. t. 97. ISBN 978-0-520-92878-7.
  2. Bosworth gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 98
Rhagflaenydd:
Arthur III
Dug Llydaw
 

14581488
Olynydd:
Anna
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.