Siasbar Tudur

iarll Penfro

Uchelwr Cymreig oedd Siasbar Tudur (Tachwedd 143121 Rhagfyr 1495); roedd yn Iarll Penfro a Dug Bedford, yn hanner brawd i Harri VI, brenin Lloegr ac yn ewythr i Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr). Gyda'i frawd hŷn Edmwnd Tudur (tua 14301456), tad Harri Tudur, yr oedd Siasbar yn un o bum plentyn Owain Tudur ac yn ddisgynnydd uniongyrchol i Ednyfed Fychan (m. 1246), distain (canghellor) pwerus Llywelyn Fawr. Caterin o Valois oedd ei fam: merch brenin Siarl VI o Ffrainc a gweddw Harri V, brenin Lloegr. I bob pwrpas Siasbar oedd yn rheoli de-orllewin Cymru o'i gadarnle yng Nghastell Penfro. Bu ganddo ran allweddol yn Rhyfeloedd y Rhosynnau fel prif gynrychiolydd y Lancastriaid yng Nghymru ac yn ymgyrchoedd ei nai, a wnaed yn ward iddo, i ennill coron Lloegr.

Siasbar Tudur
Siasbar; ffenestr yng Nghastell Caerdydd.
Ganwydc. 1431 Edit this on Wikidata
Swydd Hertford Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1495 Edit this on Wikidata
Castell Thornbury Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Raglaw yr Iwerddon Edit this on Wikidata
TadOwain Tudur Edit this on Wikidata
MamCatrin o Valois Edit this on Wikidata
PriodCatherine Woodville, duges Buckingham Edit this on Wikidata
PlantHelen Tudor Edit this on Wikidata
LlinachTuduriaid Penmynydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
Arfau Siasbar: Iarll Penfro a Dug Bedford

Erbyn 1460 roedd Siasbar mewn sefyllfa mor gryf nid yn unig yn y de-orllewin ond mewn rhannau eraill o'r wlad trwy'r swyddi niferus yr oedd wedi ennill i'w hun fel ei fod bron yn rheoli'r wlad.

Ar ôl i'r Iorciaid drechu'r Lancastriaid ym Mrwydr Croes Mortimer (1461), bu Siasbar yn alltud, yn yr Alban a Ffrainc, ond yn dilyn Brwydr Tewkesbury ym Mai 1471 dihangodd gyda Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Francis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Buont yn Llydaw rhwng 1471 a 1484 cyn i'r ddau ddychwelyd i Benfro gyda milwyr arfog a chychwyn ar eu gorymdaith drwy Gymru a arweiniodd i Frwydr Maes Bosworth.

Siasbar a'r beirdd

golygu

Fel y rhan fwyaf o uchelwyr eraill Cymru, noddai Siasbar y beirdd. Un o'r beirdd pwysicaf i ganu iddo oedd Lewys Glyn Cothi. Roedd Lewys yn Lancastriad brwd a gwladgarwr Cymreig pybyr. Dywed mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi mynd "ar herw er mwyn arglwydd Penfro," ar ôl i'r Iorciaid ennill brwydr Croes Mortimer.[1] Canodd awdl frud iddo a'i nai yn y gobaith y byddent yn dychwelyd yn fuan i adfer y Brythoniaid a gyrru'r Saeson yn ôl i'r môr:

a'r gwragedd Seisnig i'r dŵr meddal,
a'r Saesnes ormes i dref Gingsal,
a'r Saesneg wangreg i wâl - yr eigion,
a'r Saeson duon, ddimyn ys tâl.[2]

Canodd sawl bardd arall i Siasbar hefyd, gan gynnwys Dafydd Nanmor.

Gwraig a phlant

golygu

Ychydig dros ddeufis wedi Brwydr Maes Bosworth, ar 7 Tachwedd 1485, priododd Catherine Woodville (c. 1458–1509), gweddw Henry Stafford, ail ddug Buckingham, a merch Richard Woodville, Iarll 1af Rivers a Jacquetta o Lwcsembwrg. Roedd Catherine yn chwaer i Elizabeth Woodville, wraig Edward IV, ac yn modryb i blant Edward IV - Edward V a Rhisiart Dug Iorc (y tywysogion yn y Tŵr) a'u chwaer hynaf, Elizabeth Iorc, wraig Harri VII. Amcan Harri VII wrth priodi Elizabeth Iorc oedd cadarnhau'r undeb llwyddiannus yn erbyn Rhisiart III rhwng gweddillion y Lancastriaid a hen cefnogwyr Edward IV, yn enwedig teulu'r Woodvilles.

Ni chafodd Siasbar plant gyda'i wraig Catherine.

Mae'n sicr bod ganddo o leiaf un plentyn anghyfreithlon, merch o'r enw Helen neu Elen, priod William Gardiner o Lundain. Cawsant fab, Tomos Gardiner, mynach yn abaty Westminster a phennaeth Priordy Tynemouth. 'Roedd y ffaith bod Tomos yn ŵyr i Siasbar yn adnabyddus yn llys Harri VIII. Yn 1528 pennodwyd Tomos yn pennaeth Priordy Tynemouth, gyda cefnogaeth Mary Boleyn, chwaer Anne Boleyn, ac yn ol pob tebyg cefnogaeth y Cardinal Thomas Wolsey hefyd.[3] Yn 1530 clywodd yr herald Thomas Tonge cais Tomos Gardiner i ddefnyddio pais arfau ei daid Siasbar, gyda'r 'baton sinister'. [4] Croniclodd Tomos hanes Lloegr, mewn dogfen o'r enw The Flowers of England, a llinach y Tuduriaid. Daeth yn offeiriad i'w ewyrth y brenin yn Llundain lle ysgrifennodd bropaganda yn dyrchafu Harri VIII. [5]

Nid oes sail i'r chwedl, a geir mewn ambell gwaith hanesyddol o'r 19fed ganrif, bod Siasbar yn hendaid i Stephen Gardiner, esgob enwog Winchester o dan Harri VIII. Mae'r chwedl yma yn tarddu o gymysgu Thomas Gardiner, pennaeth Priordy Tynemouth, a'r esgob Stephen. A nid oes sail ychwaith i goelio bod Siasbar yn tad i blentyn arall anghyfreithlon, o'r enw Siwan neu Joan Tudor, gyda chysylltiad a theulu Thomas Cromwell, Iarll cyntaf Essex, na bod Siasbar yn hendaid i Oliver Cromwell. [6]

Llyfryddiaeth

golygu
  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
  • David Rees, The Son of Prophecy (argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), t. xxv.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), tud. 39.
  3. The Dissolution of the Monasteries (2021) James G Clark tt 149–150, 157, 550 n 85; Pearce E.H. The Monks of Westminster (1916) tud 175; Smith D.M. Heads of Religious Houses III 1377–1540 (2008) tud 154.
  4. Heraldic Visitation of the Northern Counties in 1530 by Thomas Tonge, Norroy King of Arms (1836); 'The Monasterie of Tynmouth' tt 35–6 (1836) ; "[the Prior] whose name ys GARDENER ... ys descended of the noble Queen Kateryn, wyfe of Kyng Henry the vith ... For the said Quene Kateryne was after maryed to Owayn Teddur, by whom he had yssue ... Jasper Duc of Bedford. Whiche Jasper begat a bastard doughter called Ellen, maryed Willyam Gardener, who was father to my said Lord Priour... Be it noted that the said PRIOUR OF TYNMOUTH, hath given unto me, Norrey King of Arms of the North parties, this pedigre and armes of his awne reporte, which he woll offerme at all tymes to verefy and approve before the Kynge and his Counsaill, that this pedigre is true and the armes also."
  5. Douglas Richardson, Plantagenet Ancestry: A Study In Colonial And Medieval Families, Genealogical Publishing, 2011, p.370.
  6. Richardson, Douglas (2011). Plantagenet Ancestry: A Study in Colonial and Medieval Families. tt. 368-371.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Pendefigaeth Lloegr
Rhagflaenydd:
Creadigaeth newydd
Dug Bedford
14851495
Olynydd:
Diflanedig
Rhagflaenydd:
Creadigaeth newydd
Iarll Penfro
14521461
14851495
Olynydd:
Diflanedig