Ffriŵleg
iaith
Mae'r Ffriŵleg (Furlan) yn iaith sy'n perthyn i Reto-Romaneg yn y cangen ieithyddol Italaidd o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Mae hi'n perthyn yn agos i'r Ladineg a'r Románsh.
Argraffiad Ffriŵleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Siaredir Ffriŵleg yn ardal Tagliamento yng ngogledd yr Eidal, sef yn yr Alpau Carnaidd ac yn rhannau gogleddol gwastadedd Friula.
Amcangyfrir fod o gwmpas hanner miliwn o siaradwyr Ffriŵleg heddiw.
Mae Ffriŵleg yn iaith lenyddol. Mae'r testun Ffriŵleg cynharaf sydd ar glawr yn dyddio o'r 13g.