Iaith yw Ladineg neu Ladin a siaredir ym mynyddoedd y Dolomitau yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal a thros y ffin yn Ne Tyrol yn Awstria. Mae ganddi oddeutu 30,000 o siaradwyr, a elwir yn Ladinwyr.

Mae Ladineg yn perthyn i Reto-Romaneg, sy'n iaith Romawns yng nghangen Italaidd y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Fel yn achos ei chwaer-iaith Reto-Romanig, Ffriŵleg, mae'r iaith Eidaleg wedi dylanwadu'n drwm ar y Ladineg.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.