Rhaetieg yw'r enw a roddir ar yr iaith, neu grŵp o dafodieithoedd a siaredid ar un adeg trwy'r ardal sy'n ymestyn o'r Alpau Carnaidd yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal i fynyddoedd Alpau Grison yn y Swistir.

Rhaetieg
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith yr henfyd Edit this on Wikidata
MathTyrsenian Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 0
  • cod ISO 639-3xrr Edit this on Wikidata
    GwladwriaethAlpau Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuEtruscan alphabet, Q4412204 Edit this on Wikidata

    Rhaetieg Cynnar golygu

    Mae'r enw Rhaetieg (hefyd Raetieg) yn tarddu o enw'r dalaith Rufeinig Rhaetia, talaith Alpaidd a ymgorfforwyd yn yr Ymerodraeth Rufeinig yn 15 C.C. ac a Ladineiddwyd mewn canlyniad. Mae'r iaith frodorol gynharach, a elwir hefyd Rhaetieg, yn cael ei chofnodi ar nifer o arysgrifau cyn-Rufeinaidd ond erys cryn ansicrwydd yn ei chylch.

    Rhaetieg yr Eidal golygu

    Mae Rhaetieg diweddar yn perthyn yn agos i Eidaleg. Yn Awstria mae wedi ildio tir i Almaeneg bron yn gyfangwbl ac yn y de mae'r Eidaleg wedi cymryd drosodd i raddau helaeth.

    Rhennir Rhaetieg yr Eidal yn ddwy iaith neu dafodiaith,

    Rhaetieg y Swistir a'r cylch golygu

    Ers y 10fed ganrif mae Rhaetieg wedi ildio tir i'r Eidaleg. Roedd hi'n cael ei siarad ar lannau Llyn Constans ond erbyn heddiw fe'i cyfyngir i rannau o'r Grisons. Er gwaethaf hynny nid patois mohoni ond iaith lenyddol gydnabyddedig a elwir Romaunsch.

    Dolenni allanol golygu

    Arysgrifau Rhaeteg