Ffrwydradau fflatiau yn Rwsia
Cyfres o ffrwydradau bom oedd y ffrwydradau fflatiau yn Rwsia a darodd pedwar bloc o fflatiau yn ninasoedd Buynaksk, Moscfa, a Volgodonsk yn Ffederasiwn Rwsia ym mis Medi 1999, gan ladd 293 o bobl ac anafu 651. Cafodd nifer o fomiau eraill eu dadffiwsio ym Moscfa ar y pryd. Cafodd bom tebyg ei ganfod a'i ddadffiwsio yn ninas Ryazan ar 23 Medi 1999. Trannoeth, datganodd Nikolai Patrushev, Cyfarwyddwr y Wasanaeth Diogelwch Ffederal (FSB), yr oedd y digwyddiad yn Ryazan yn ymarferiad hyfforddi.
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad terfysgol cydgysylltiedig, ymosodiad gyda bom, structural failure, llofruddiaeth torfol |
---|---|
Dyddiad | Medi 1999 |
Lladdwyd | 307 |
Rhan o | Ail Ryfel Tsietsnia |
Dechreuwyd | 4 Medi 1999 |
Daeth i ben | 16 Medi 1999 |
Lleoliad | Moscfa, Buynaksk, Volgodonsk |
Yn cynnwys | Buynaksk bombing, Guryanova Street bombing, Kashirskoye Highway bombing, Volgodonsk bombing |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ynghŷd â goresgyniad Dagestan yn Awst 1999 gan filisia Islamiaidd Shamil Basayev ac Ibn al-Khattab, achosodd y ffrwydradau i Rwsia gychwyn Ail Ryfel Tsietsnia. Er datganodd al-Khattab ar 2 Medi y bydd mujahideen Dagestan yn cael dial ar Rwsia, ar 14 Medi gwadodd cyfrifoldeb am y ffrwydradau.
Yn 2002, penderfynodd ymchwiliad swyddogol gan yr FSB y cafodd y ffrwydradau eu cynllunio gan Achemez Gochiyaev a'u gorchymyn gan Ibn Al-Khattab ac Abu Omar al-Saif. Cafwyd chwe pherson arall yn euog gan lysoedd Rwsia. Mae nifer wedi honni yr oedd y ffrwydradau yn ymosodiadau baner ffug gan yr FSB er mwyn ennill cefnogaeth cyhoedd Rwsia dros ryfel newydd yn Tsietsnia. Mae eraill wedi dadlau nad oes digon o dystiolaeth dros y ddamcaniaeth gydgynllwyniol hon.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Russian Apartment Bombings: The Story of Ryazan Sugar, 28.10.2018, Medium