Ail Ryfel Tsietsnia
Gwrthdaro rhwng Ffederasiwn Rwsia a Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria o 1999 hyd 2009 oedd Ail Ryfel Tsietsnia. Dilynodd Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1994–6). Lansiwyd gan Rwsia ar 26 Awst 1999 fel ymateb i oresgyniad Dagestan gan y Frigâd Gadw'r Heddwch Islamaidd Ryngwladol (IIPB). Wedi i luoedd Rwsiaidd symud i mewn i Tsietsnia ar 1 Hydref, daeth ag annibyniaeth de facto Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria i ben. Enillodd y Rwsiaid reolaeth dros y brifddinas Grozny ar ôl gwarchae trwy gydol gaeaf 1999–2000. O tua mis Mehefin 2000 ymlaen, daeth y brwydrau confensiynol i ben a throdd natur y rhyfel yn wrthryfel herwfilwrol, a pharhaodd gwrthryfelwyr Tsietsniaidd i beri colledigion mawr i'r Rwsiaid am bron i ddegawd. Buont hefyd yn gyfrifol am ymosodiadau terfysgol yn Tsietsnia a gweddill Ffederasiwn Rwsia, a chyhuddir lluoedd Rwsiaidd a'r gwrthryfelwyr Tsietsniaidd yn gyfrifol am droseddau rhyfel. Daeth yr ymgyrch wrth-derfysgol yn Tsietsnia i ben yn swyddogol ar 16 Ebrill 2009, ond mae gwrthryfel yng Ngogledd y Cawcasws yn parhau.
Ail Ryfel Tsietsnia | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Bedd torfol yn Tsietsnia | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Ffederasiwn Rwsia | Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria Gwrthryfelwyr Tsietsniaidd Mujahideen tramor | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Vladimir Putin Igor Sergeyev Viktor Kazantsev Gennady Troshev Vladimir Boldyrev Alexander Baranov Anatoliy Serdyukov Sergei Ivanov Nikolai Patrushev Valentin Korabelnikov Anatoly Kvashnin Yuri Baluyevsky Akhmad Kadyrov Alu Alkhanov Sulim Yamadayev Ramzan Kadyrov Sergei Abramov Mukhu Aliyev |
Aslan Maskhadov Sheikh Abdul Halim Dokka Umarov Aslambek Abdulkhadziev Ilyas Akhmadov Turpal-Ali Atgeriyev Akhmed Avtorkhanov | ||||||
Nerth | |||||||
80,000 yn Tsietsnia ym 1999, 45,000 i 70,000 yn Tsietsnia yn 2006. | 22,000 ym 1999. | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
4,472-7,503 | 16,299 | ||||||
Rhwng 25,000 a 50,000 o sifiliaid yn farw neu ar goll. |
Darllen pellach
golygu- Souleimanov, Emil. "Chechnya, Wahhabism and the Invasion of Dagestan", Middle East Review of International Affairs 9 (4) Rhagfyr 2005.