Damcaniaeth gydgynllwyniol

Damcaniaeth yw damcaniaeth gydgynllwyniol sy'n honni bod cynllwyn neu gydgynllwyn cyfrinachol gan grŵp o bobl[1] i ennill amcanion drwgdybus. Mae rhai damcaniaethau yn ceisio esbonio digwyddiad hanesyddol trwy gynllwyn cyfrinachol, a damcaniaethau eraill yn honni bod cynllwyn systemig gan grŵp sydd ag amcanion eang, yn aml i reoli gwlad, rhanbarth, neu hyd yn oed yr holl fyd. Yn aml mae damcaniaethau cydgynllwyniol yn ymylol ac eithafol ac yn destun sgeptigaeth, a dadleuol iawn yw'r dystiolaeth drostynt, ond weithiau mae ambell cydgynllwyn y gellir ei brofi yn dod i'r amlwg.

Mae'r theoriau yn aml yn gweld llaw y Wladwriaeth Ddofn y wlad yn rhan o'u cynllwynion, boed yn wir neu beidio.

Cydgynllwynion a brofwyd i fod yn wir golygu

Mae nifer o gydgynllwynion hanesyddol a brofwyd i fod yn wir. Maent yn cynnwys sgandalau gwleidyddol, megis Watergate ac Iran-Contra, a phrosiectau cudd gan lywodraethau neu asiantaethau llywodraethol neu hyd yn oed sefydliadau a grwpiau eraill megis cwmnïau. Mae enghreifftiau eraill o gydgynllwynion gwir yn cynnwys arbrawf syffilis Tuskegee, Prosiect MKULTRA gan y CIA, a helynt dogfennau ffug wraniwm Niger.

Yn ôl yr academydd Katherine K. Young, "mae gan bob cydgynllwyn gwir o leiaf pedair arwedd nodweddiadol: grwpiau, nid unigolion ar ben eu hunain; amcanion anghyfreithlon neu sinistr, nid nodau bydd yn fuddiol i gymdeithas i gyd; gweithredoedd wedi eu trefnu a'u rheoli, nid cyfres o weithredoedd digymell ac ar hap; a chynllwynio cudd, nid trafodaeth gyhoeddus".[2]

Rhestr damcaniaethau cydgynllwyniol golygu

Trefn Byd Newydd golygu

Damcaniaethau am lywodraeth fyd dotalitaraidd neu grwpiau sy'n ceisio rheoli'r byd.

Damcaniaethau baner ffug golygu

Gweithredoedd cudd gan lywodraethau, yn aml yn erbyn sifiliaid neu dargedau milwrol eu hunain, sydd yna'n honni taw eraill, er enghraifft terfysgwyr, sy'n gyfrifol.

Bradlofruddiaethau, marwolaethau, a marwolaethau wedi'u ffugio golygu

Gwrthrychau hedegog anhysbys (UFO) golygu

Damcaniaethau sy'n honni bod llywodraethau yn cuddio tystiolaeth o fywyd y tu hwnt i'r Ddaear.

Arall golygu

Damcaniaethwyr cydgynllwyniol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Mae rhai damcaniaethau cydgynllwyniol yn honni nid bodau dynol sydd y tu ôl i gynllwynion, ond "bodau ymlusgol" sy'n cymryd ffurf ddynol.
  2. Young, Katherine K.; Paul Nathanson (2010) Sanctifying misandry: goddess ideology and the Fall of Man Gwasg Prifysgol McGill-Queen ISBN 9780773538733 t. 275.