Ffwl-y-mwn
Pentrefan yng nghymuned Y Rhws, Bro Morgannwg, Cymru, yw Ffwl-y-mwn[1] (Saesneg: Fonmon).[2] Saif yn agos i'r ffordd B4265 i'r gogledd-orllewin o Ffontygari a'r Rhws, i orllewin Maes Awyr Caerdydd.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.3998°N 3.3696°W |
Cod OS | ST045675 |
Gwleidyddiaeth | |
Mae'r pentrefan yn fwyaf adnabyddus am ei bwll hwyaid canolig, ac am Gastell Ffwl-y-mwn, tŷ hanesyddol ar ochr arall y B4265. Mae gan nifer o'r tai yn yr ardal doeau gwellt.
Y Castell
golygu- Prif: Castell Ffwl-y-mwn
Un o'r ychydig gestyll canoloesol sydd dal yn cael ei ddefnyddio fel cartref yw Castell Ffwl-y-mwn. Ers iddo gael ei adeiladu gan y teulu St. John tua 1200, dim ond unwaith y mae wedi newid perchnogion[3].
Oliver St. John oedd un o Ddeduddeg Marchog chwedlonol Morgannwg a achosodd oresgyniad Normanaidd Morgannwg. Heddiw, mae'r teulu St. John yn cael eu cynrychioli gan Is-iarll Bolingbroke.
Mae'r castell yn dal i gael ei ddefnyddio fel preswylfa breifat. Disgynyddion Philip Jones, a brynodd y tŷ ym 1654, sy'n berchen arno heddiw.[4] Ym 1762, adnewyddodd Thomas Paty o Fryste y castell ar gyfer ei berchennog ar y pryd, Robert Jones.[5] Dyluniwyd y nenfydau a'r llyfrgell gan Thomas Stocking yn arddull Rococo ac ychwanegwyd gerddi helaeth.
Oriel
golygu-
Pwll hwyaid
-
Castell Ffwl-y-Mwn
-
Perchennog blaenorol Castell Ffwl-y-mwn, Robert Oliver Jones
-
Pont Ffwl-y-mwn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021
- ↑ Spurgeon, Clifford (Ebrill 2000). An inventory of the ancient monuments in Glamorgan. Cardiff: Royal Commission on Ancient and Historical Monuments in Wales, H.M.S.O. tt. 147–50. ISBN 0-11-700588-6. OCLC 2930296.
- ↑ William Retlaw Williams (1895). The Parliamentary History of the Principality of Wales, from the Earliest Times to the Present ... (yn English). University of Michigan. Priv. print. for the author by E. Davies and Bell.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Newman, John (1995). Glamorgan : (Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan). Stephen Hughes, Anthony Ward. London: Penguin Books. ISBN 0-14-071056-6. OCLC 33858574.