Maes Awyr Caerdydd
Maes Awyr Caerdydd ydy unig faes awyr masnachol Cymru. Fe'i lleolir ym mhentref Y Rhws ym Mro Morgannwg, tua 12 milltir (19 km) i'r de-orllewin o Gaerdydd. Codau: IATA: CWL, ICAO: EGFF)
Math | maes awyr, erodrom traffig masnachol, maes awyr rhyngwladol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caerdydd |
Agoriad swyddogol | 1952 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Rhws |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 220 troedfedd |
Cyfesurynnau | 51.3967°N 3.3433°W |
Nifer y teithwyr | 857,397 |
Rheolir gan | Abertis |
Maes Awyr Caerdydd Cardiff Airport | |||
---|---|---|---|
IATA: CWL – ICAO: EGFF | |||
Crynodeb | |||
Perchennog | Llywodraeth Cymru | ||
Rheolwr | Cardiff Airport Limited | ||
Gwasanaethu | Caerdydd | ||
Lleoliad | Y Rhws, Bro Morgannwg | ||
Uchder | 220 tr / 67 m | ||
Gwefan | |||
Lleiniau glanio | |||
Cyfeiriad | Hyd | Arwyneb | |
tr | m | ||
12/20 | 7,848 | 2,392 | Asffalt |
Yr enw gwreiddiol oedd Maes Awyr y Rhws, ac fe'i adeiladwyd ar faes awyr Awyrlu Lloegr. Cododd David Rees-Williams, Barwn 1af Ogwr, gwleidydd Llafur a Rhyddfrydol Cymreig wrthwynebiad, gan ofni y byddai simneiau tal gwaith dur East Moors yn berygl i'r awyrennau. Cychwynwyd hedfan masnachol yn 1953 gyda'r hediad cyntaf gan Aer Lingus i Ddulyn, ac ar 1 Ebrill 1954 caeewyd Maes Awyr Rhostir Pengam yn Nhremorfa, Caerdydd, a symudwyd y teithwyr yma, lle codwyd terfynfa newydd. Fe'i prynwyd gan Lywodraeth Cymru am £52m ar 27 Mawrth 2013. Yn 2024 roedd y cwmniau canlynol yn hedfan o Gaerdydd: KLM, Loganair, Ryanair, Tui Airways, Vueling.
Hanes
golyguSefydlwyd y maes awyr yn y 1940au pan gymerodd y Weinyddiaeth Awyr y tir i sefydlu maes ymarfer i'r Awyrlu Brenhinol. Dechreuwyd ar y gwaith ym 1941 ond laniodd yr un awyren fasnachol tan 1952 pan ddechreuodd cwmni Aer Lingus hedfan yno o Ddulyn. Codwyd adeilad newydd wedyn a dechreuwyd teithiau i Ffrainc, Belffast a Chorc. O ganlyniad i deithiau arbennig i bobl a oedd yn mynd ar wyliau, cododd nifer y teithwyr y flwyddyn i dros 100,000 erbyn 1962.
Tan y 1970au, enw'r maes awyr oedd 'Maes Awyr y Rhws' ond newidiwyd hyn i 'Faes Awyr Y Rhws, Morgannwg'. Ymwelodd yr awyren Concorde â'r maes awyr sawl gwaith ar achlysuron arbennig er i deithiau gael eu cyfyngu gan hyd y lanfa. Uwchraddiwyd enw'r maes awyr i 'Maes Awyr Caerdydd, Cymru' er bod Caerdydd rhyw 10 milltir i ffwrdd.
Denwyd mwy o fusnes i'r maes awyr wedi i'r lanfa gael ei hymestyn ym 1986 gan fod awyrennau jet newydd yn gallu glanio yno. Byddai awyrennau siarter i UDA a Chanada yn gadael y maes awyr, gan greu cysylltiadau awyr o Gymru. Sefydlwyd cyfleusterau cynnal a chadw gan British Airways yno hefyd ac maen nhw'n parhau yno hyd heddiw.
Yn Ebrill 1995, cafodd y maes awyr ei breifateiddio a gwerthwyd y cyfranddaliadau i gwmni TBI ccc, sydd bellach yn is-gwmni i 'abertis airports'.
Bu cwmni awyrennau cenedlaethol Awyr Cymru yn hedfan o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (a Maes Awyr Abertawe am gyfnod) i nifer o leoedd nes i'r cwmni ddod i ben yn 2006.
Erbyn 2006 roedd dros 2 filiwn o deithiau yn defnyddio'r maes awyr yn flynyddol.
Hedfan mewnol
golyguMae teithiau awyr mewnol wedi dechrau ym Mai 2007 yn sgil Goblygiad Gwasanaeth Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Am y tro cyntaf, bydd cysylltiad awyr rhwng gogledd a de Cymru, gyda dwy daith ddyddiol rhwng Maes Awyr Môn a Chaerdydd yn ystod yr wythnos.
Dolenni allanol
golygu