Ffynnon Allgo

ffynon sanctaidd

Mae Ffynnon Allgo wedi’i lleoli ym mhentref Llanallgo ar Ynys Môn.

Eglwys St Gallgo

Mae’r ffynnon tua chwarter milltir i’r dde o Eglwys St. Gallgo. Mae’r ffynnon yn un o ffynhonnau hynaf Môn ac wedi ei lleoli ar safle carafanau yn y pentref. Roedd y lleoliad yma yn gysegredig i’r duwiau Celtaidd ac yn le delfrydol i’r Derwyddon addoli eu duwiau. Ger y ffynnon mae yna gerflun o ben dynol ar ddarn o dywodfaen. Darganfuwyd y cerflun yn 1982. Mae’n awgrym o wreiddiau paganaidd. Mae’r ffynnon mewn dyffryn bychan cuddiedig a choed o’i gwmpas.[1] Yn y llyfr Inventory of Ancient Monumentes of Anglesey mae’r ffynnon yn cael ei disgrifio fel ...a small pool on a rectangular chamber ten and a half feet by seven with low walls of limestone blocks...[2]

Dŵr y ffynnon

golygu

Roedd dŵr y ffynnon llawn swllfat leim ac yn ôl traddodiad roedd y dŵr yn iachau cleifion. Nid oes gofnod o ba anhwylderau a gai eu gwella gan ddŵr ffynnon Allgo.

Erbyn hyn mae coed yn tyfu drwyddi ac yn amlwg wedi ei hesgeuluso.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)
  2. Inventory of Ancient Monumentes of Anglesey