Ffynnon Llyffant
llyn, Caerhun
Llyn bychan yn Y Carneddau, Eryri, yw Ffynnon Llyffant[1] (weithiau Llyn Llyffant). Fe'i lleolir mewn cwm creigiog uchel yng nghymuned Caerhun yn Sir Conwy.
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerhun ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1619°N 3.9636°W ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4d/Llyn_Llyffant_Geograph-910130-by-Eric-Jones.jpg/250px-Llyn_Llyffant_Geograph-910130-by-Eric-Jones.jpg)
Ffynnon Llyffant yw llyn uchaf Cymru. Mae'n sefyll 2800 troedfedd (tua 815 meter) i fyny ar lethrau dwyreiniol Carnedd Llywelyn.[1]
Dyma brif darddle Afon Eigiau, sy'n llifo i lawr Cwm Eigiau ac i mewn i Lyn Eigiau. Ar ei ffordd mae'n cael ei bwydo gan ffrydiau llai sy'n llifo i lawr o lethrau Foel Grach, Carnedd Llywelyn a Phen yr Helgi Du. Ceir olion nifer o hen chwareli llechi yn is i lawr y cwm.