Caerhun
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Caerhun.[1][2] Mae'n adnabyddus am safle caer Rufeinig Canovium. Er nad yw'r pentref ei hun yn fawr, mae'r gymuned yn ymestyn o lan Afon Conwy hyd at brif grib y Carneddau yn Eryri ac yn cynnwys sawl mynydd a heneb. Yn 2011 roedd 1,292 o bobl yn byw yn y gymuned (gweler isod).
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 1,292, 1,269 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,668.18 ha |
Cyfesurynnau | 53.217°N 3.836°W |
Cod SYG | W04000110 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Eglwys y Santes Fair
golyguMae'r eglwys yn dyddio i'r 14g, ac wedi'i chodi o fewn hen furiau'r gaer Rufeinig. Fe'i cofrestrwyd fel Gradd 1 gan CADW.[3]
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Hynafiaethau
golyguCeir sawl heneb a safle hanesyddol yng nghymuned Caerhun, yn cynnwys:
- Aneddiadau hynafol Cwm Eigiau
- Barclodiad y Gawres. Carnedd gron.
- Bwlch y Ddeufaen. Meini hynafol.
- Canovium. Caer Rufeinig
- Carnedd Afon Dulyn. Carnedd cynhanesyddol.
- Cerrig Pryfaid. Cylch cerrig.
- Eglwys y Santes Fair. Eglwys y plwyf. Saif ger Afon Conwy ar godiad tir yng nghornel y gaer Rufeinig. Mae'n dyddio o'r 13g.
- Maen y Bardd. Cromlech.
- Pen-y-gaer. Bryngaer.
Oriel
golygu-
Saif yr eglwys yng Nghornel chwith ucha'r sgwar, sef y gaer Rufeinig, gyda'r porthladd Rhufeinig ar ochr chwith y lan.
-
Mae olion y gaer yn reit amlwg yn y llun yma
-
Ar ochr dde'r llun yma, ychydig o'r golwg y safodd y porthladd Rhufeinig
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ churchinwales.org.uk; adalwyd 1 Mehefin 2023.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan