Foel Grach

mynydd (975.4m) yng Ngwynedd

Un o'r copaon ar brif grib y Carneddau yw Foel Grach.

Foel Grach
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr976 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.17408°N 3.96323°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6888165909 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd41.7 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Llywelyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

 
Y garnedd ary copa.

Saif rhwng Carnedd Llywelyn i'r de a Charnedd Gwenllian a Foel Fras i'r gogledd.

Fel y rhan fwyaf o'r copaon yn y Carneddau, mynydd gwelltog yw Foel Grach, ond ceir clogwyni ar yr ochr ddwyreiniol yn disgyn tua Llyn Dulyn a Llyn Melynllyn. Mae nifer o nentydd yn tarddu ar y llethrau gorllewinol ac yn llifo i mewn i Afon Caseg.

Caban golygu

Adeiladwyd caban fymryn islaw'r copa fel lle i gysgodi dros nos neu mewn tywydd garw i fynyddwyr sydd mewn trafferthion ar y Carneddau. Fodd bynnag, bu cwyno fod rhai mynyddwyr yn cynllunio i aros yma, yn hytrach nag yn ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)