Fideo ar alw
Mae fideo ar alw (Video on demand neu VOD) yn system ddosbarthu gwahanol gyfryngau megis ffilm, ac sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad i fideos heb ddyfais chwarae fideo draddodiadol a chyfyngiadau amserlen ddarlledu. Yn yr 20g, darlledu dros yr awyr oedd y math mwyaf cyffredin o ddosbarthu cyfryngau fel radio a theledu ond wrth i dechnoleg y rhyngrwyd ac IPTV barhau i ddatblygu yn y 1990au, dechreuodd defnyddwyr wyro tuag at ddulliau anhraddodiadol o ddefnyddio cynnwys, a arweiniodd at ddyfodiad VOD ar setiau teledu a chyfrifiaduron personol.[1]
Enghraifft o system adloniant awyren, sy'n defnyddio technoleg fideo ar alw | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth ar y rhyngrwyd, dull o ddosbarthu cynnyrch neu nwyddau ![]() |
Math | darlledu ![]() |
![]() |
Yn wahanol i ddarlledu traddodiadol, roedd systemau fideo ar-alw yn ei gwneud yn ofynnol i ddechrau i bob defnyddiwr gael cysylltiad rhyngrwyd gyda lled-band sylweddol i gael mynediad i'r cynnwys. Yn 2000, datblygodd Sefydliad Fraunhofer IIS[2] y codec JPEG2000, a'i gwnaeth hi'n bosib dosbarthu ffilmiau trwy Becynnau Sinema Digidol (Digital Cinema Packages). Ers hynny mae'r dechnoleg hon wedi gwella ac ehangu i gynnwys rhaglenni teledu a ddarlledir ac mae wedi arwain at ofynion lled-band is ar gyfer cymwysiadau fideo ar-alw. Yn dilyn hynny lansiodd Disney, Paramount, Sony, Universal a Warner Bros y Fenter Sinema Ddigidol, yn 2002.[3]
Gall systemau fideo ar-alw teledu ffrydio cynnwys, naill ai drwy flychau aml-gyfryngol (set-top boxes) traddodiadol neu drwy ddyfeisiau o bell (remote) fel cyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar. Gall defnyddwyr fideo ar-alwad lawrlwytho cynnwys yn barhaol i ddyfais fel cyfrifiadur neu chwaraewr cyfryngau cludadwy fel y ffôn i'w wylio'n barhaus. Mae mwyafrif y darparwyr teledu cebl a ffôn yn cynnig ffrydio fideo ar alw, lle mae defnyddiwr yn dewis rhaglen fideo neu ffilm sy'n dechrau chwarae ar unwaith, neu, hyd at y 2010au i DVR a oedd yn cael ei rentu neu ei brynu gan y darparwr, neu i gyfrifiadur personol neu ddyfais gludadwy ar gyfer gwylio unrhyw bryd.
Mae cyfryngau ffrydio wedi dod i'r amlwg fel cyfrwng cynyddol boblogaidd o ddarparu fideo ar-alw. Ceir cymwysiadau fel storfa gynnwys ar-lein Apple iTunes ac apiau Smart TV fel Amazon Prime Video sy'n caniatáu rhentu dros dro a phrynu cynnwys adloniant fideo. Mae systemau VOD eraill ar y Rhyngrwyd yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at fwndeli o gynnwys adloniant fideo yn hytrach na ffilmiau a sioeau unigol. Ymhlith y systemau mwyaf cyffredin y mae, Netflix, Hulu, Disney +, Peacock, HBO Max a Paramount +, sy'n defnyddio model tanysgrifio sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dalu taliad misol am fynediad i ddetholiad o ffilmiau, sioeau teledu, a chyfresi gwreiddiol. Mewn cyferbyniad, mae YouTube, system VOD arall sy'n seiliedig ar y Rhyngrwyd, yn defnyddio model a ariennir gan hysbysebu lle gall defnyddwyr gyrchu'r rhan fwyaf o'i gynnwys fideo yn rhad ac am ddim ond mae'n rhaid iddynt dalu ffi tanysgrifio ar gyfer cynnwys premiwm gyda llai o hysbysebion. Mae rhai cwmnïau hedfan yn cynnig gwasanaethau fideo ar alw i deithwyr awyrenau trwy sgriniau fideo wedi'u gosod mewn seddi neu chwaraewyr cyfryngau cludadwy.[4]
Adroddwyd bod y pandemig wedi cyfrannu at drawsnewid dosbarthiad ffilmiau o blaid PVOD dros dai ffilm traddodiadol, gan fod stiwdios yn gallu gwireddu 80% o refeniw trwy PVOD yn erbyn 50% o dderbyniadau swyddfa docynnau theatr draddodiadol. Mae perchnogion theatr o AMC a Cinemark i IMAX a National CineMedia i gyd wedi profi colled ariannol difrifol oherwydd y cau i lawr. [5]
Teledu catch-upGolygu
Mae llawer o orsafoedd teledu fel S4C yn cynnig "teledu dal i fyny" fel ffordd i wylwyr wylio rhaglenni trwy eu gwasanaethau fideo ar-alw ar ôl i'r darllediad teledu gwreiddiol ddod i ben.[6][7] Enw teledu catch-up y BBC, ac felly S4C yw iPlayer.
Darllen pellachGolygu
- Petley, Julian (July 2014). "The regulation of pornography on video-on-demand in the United Kingdom". Porn Studies 1 (3): 260–284. doi:10.1080/23268743.2014.927705. http://bura.brunel.ac.uk/handle/2438/9822.
- What is Broadcaster VOD. Broadcaster Video On Demand is an exciting and evolving landscape which offers advertisers a host of premium advertising opportunities around trusted, quality content. It’s an important part of the new TV ecosystem that is helping people to watch more of the TV they love.
- Broadcaster VOD services. There are a host of different VOD services from the UK broadcasters all brimming with opportunities for advertisers. Here you’ll find an overview of the key players and their on-demand services by platform
- Broadcaster VOD advertising formats. From clickable pre-rolls to full interactivity, broadcaster VOD advertising is always innovating. Here you can get the low down on the various VOD formats currently available from the UK TV companies
- Marriott, Michel (6 August 2007). "Nothing to Watch on TV? Streaming Video Appeals to Niche Audiences". The New York Times. Cyrchwyd 1 April 2008.
- "Google entering video-on-demand business". CNET News. 9 January 2006. Cyrchwyd 23 May 2016.
- "On-demand media: Re-inventing the retail business model". Screen Digest. March 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 March 2008. Cyrchwyd 1 April 2008.
- "Pioneer Optical Disc Expertise Advances On-Demand DVD Entertainment". Reuters. 6 January 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2008. Cyrchwyd 1 April 2008.
- Lotz, Amanda D. (2007) "The Television Will Be Revolutionized". New York: New York City University Press. p. 59.
- McGregor, Michael A., Driscoll, Paul D., McDowell, Walter (2010) "Head’s Broadcasting in America: A Survey of Electronic Media". Boston, Massachusetts: Allyn & Bacon p. 47–48.
- "The Video on Demand Business Index". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 April 2016. Cyrchwyd 27 April 2011.
- "MAVISE, Database on television and on-demand audiovisual services in Europe (European Audiovisual Observatory)".
- "Market intelligence on the VOD markets in Europe (European Audiovisual Observatory)".
- ↑ "Advertising Terminology: A Primer for the Uninitiated or Confused". Videa (yn Saesneg). 16 May 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 December 2018. Cyrchwyd 24 December 2018.
- ↑ Martínez-del-Amor, Miguel Á.; Bruns, Volker; Sparenberg, Heiko (2017). Tescher, Andrew G.. ed. "Parallel efficient rate control methods for JPEG 2000". Applications of Digital Image Processing XL 10396: Paper 103960R, 16. Bibcode 2017SPIE10396E..0RM. doi:10.1117/12.2273005. ISBN 9781510612495. http://publica.fraunhofer.de/documents/N-479926.html.
- ↑ "Digital Cinema Initiatives (DCI) - Digital Cinema System Specification, Version 1.2". DCIMovies.com. Cyrchwyd 4 September 2019.
- ↑ Webster, Andrew (4 June 2012). "Airline swaps in-flight entertainment system for iPads to lose weight and save fuel". The Verge. Cyrchwyd 23 August 2021.
- ↑ Williams, Joseph (23 June 2020). "Premium VOD here to stay as more studios embrace streaming, analysts say". www.spglobal.com (yn Saesneg). Standard & Poors.
- ↑ "What is catch up TV, and where can you watch it? - Saga".
- ↑ "Catch-up TV". Media Access Australia.