Ffinlandia

(Ailgyfeiriad o Finlandia)

Mae Ffinlandia, Op. 26, yn gerdd dôn gan y cyfansoddwr o'r FfindirJean Sibelius. Cafodd ei gyfansoddi yn wreiddiol ym 1899 a'i diwygio ym 1900. Cafodd y darn ei chyfansoddi ar gyfer Dathliadau'r Wasg, 1899, protest cudd yn erbyn sensoriaeth gynyddol Ymerodraeth Rwsia. Ffinlandia oedd yr olaf o saith darn i'w perfformio fel cyfeiliant i dablo yn darlunio penodau o hanes y Ffindir. Roedd y perfformiad cyntaf ar 2 Gorffennaf 1900 yn Helsinki gan Gymdeithas Ffilharmonig Helsinki dan arweiniad Robert Kajanus. Fel arfer bydd perfformiad yn cymryd rhwng 7½ a 9 munud.

Ffinlandia
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1900 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1900 Edit this on Wikidata
Genresymphonic poem Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af2 Gorffennaf 1900 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJean Sibelius Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Finlandia première édition

Er mwyn osgoi sensoriaeth Rwsia, roedd Ffinlandia yn cael ei berfformio o dan enwau eraill mewn gwahanol gyngherddau. Ymysg y ffug deitlau niferus defnyddiwyd i berfformio'r darn bu Teimladau Hapus yn neffroad y Gwanwyn yn y Ffindir ac Ymdeithgan Gorawl Sgandinafaidd.

Mae'r rhan fwyaf o'r darn yn llawn cerddoriaeth fywiog a chythryblus, i greu naws brwydr genedlaethol pobl y Ffindir. Tua diwedd y darn mae'r gerddorfa yn tawelu i gyflwyno, melodi araul Emyn Ffinlandia. Er ei fod yn cael ei ddisgrifio'n anghywir fel alaw werin draddodiadol, mae'r Emyn yn gyfansoddiad gwreiddiol gan Sibelius ei hun.[1]

Er ei fod yn wreiddiol wedi ei gyfansoddi ar gyfer cerddorfa, ym 1900 trefnodd Sibelius y gwaith ar gyfer unawd piano.[2][3]

Ail-weithiodd Sibelius Emyn Ffinlandia fel darn i sefyll ar ei ben ei hun. Yr emyn hwn, gyda'r geiriau a ysgrifennwyd ym 1941 gan Veikko Antero Koskenniemi, yw un o ganeuon cenedlaethol pwysicaf y Ffindir.

Yn y Gymraeg defnyddir yr emyn dôn Ffinlandia fel cyfeiliant i emyn gwladgarol Lewis Valentine Gweddi Dros Gymru (Dros Gymru'n Gwlad). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr emyn Saesneg Be Still, My Soul, ar emyn Eidaleg Veglia al mattino[4]. Fe'i defnyddiwyd hefyd fel anthem genedlaethol y wladwriaeth Affricanaidd fyrhoedlog Biafra.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dubal, David. The Essential Canon of Classical Music, p. 466. New York: North Point Press, 2001.
  2. Sibelius – The Music
  3. Sibelius, Jean. Finlandia Op.26 Nr.7 für Klavier zu zwei Händen, Wiesbaden: Breitkopf & Härtel, Nr 2415
  4. "Veglia al mattino – Chiesa Evangelica Valdese". www.chiesavaldese.org. Unione delle Chiese metodiste e valdesi. Cyrchwyd 22 December 2015.