Asid ffolig
Fitamin o deulu fitamin B yw asid ffolig neu fitamin B9 (weithiau hefyd fitamin M a ffolasin). Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Fel gweddill teulu fitamin B gall asid ffolig hydoddi mewn dŵr. Mae'r gair "ffolig" yn tarddu o'r gair Lladin am ddeilen (folium) gan fod dail gwyrdd yn llawn ohono.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | B9 vitamin, pteridine, folic acids |
Màs | 441.14 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₉h₁₉n₇o₆ |
Enw WHO | Folic acid |
Clefydau i'w trin | Anemia megaloblastig, macrocytic anemia |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america a |
Rhan o | folic acid binding, chemotaxis to folate, folic acid metabolic process, folic acid biosynthetic process, folic acid catabolic process, response to folic acid, cellular response to folic acid, intestinal folate absorption, folate transmembrane transport, folic acid:proton symporter activity, folic acid transmembrane transporter activity, folic acid transport, folate:anion antiporter activity, folate import across plasma membrane, folate import into mitochondrion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae llawer o asid ffolig yn y bwydydd canlynol: sbigoglys, letis, ffa wedi'u sychu, grawnfwydydd, a hadau (e.e. blodau haul). Mae iau (afu) hefyd yn cynnwys llawer ohono, yn ogystal â burum y pobydd, Marmite a Vegemite. Mae creision ŷd a'i debyg yn cynnwys rhwng 25% a 100% o'r hyn sydd ei angen.
Hanes
golyguDarganfuwyd asid ffolig gan Lucy Wills yn 1933, pan oedd yn ymchwilio i mewn i anghenion merched beichiog, a cheisio atal anemia. Burum y pobydd ddefnyddiodd hi, gan wedyn, sylweddoli mai'r asid ffolig a oedd yn gwneud y gwaith. Llwyddodd i dynnu'r asid allan o ddail sbigoglys yn 1941. Crewyd asid ffolig artiffisial yn 1946 gan Yellapragada Subbarao.