Fizzy Oppe
Mae Fizzy Oppe (ganwyd 1956) wedi llwyddo i gyfuno gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant gweledol â chyfraniad gwerthfawr yn y byd academaidd.
Fizzy Oppe | |
---|---|
Ganwyd | 1956 |
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe’i ganed ym Mryste yn 1956 ond symudodd y teulu i Lundain pan oedd yn bump oed. Deuai ei thad o gefndir Iddewig, a phediatregydd ydoedd wrth ei alwedigaeth; nyrs oedd ei mam.
Graddiodd Fizzy â gradd mewn Saesneg o Brifysgol Caergrawnt ym 1978 ac fe dreuliodd wyth mlynedd fel cynhyrchydd a darlithydd rhan amser mewn colegau amrywiol yn Lloegr, yn eu plith Coleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain.
Gyrfa
golyguSefydlwyd Victoria Films ganddi hi a’r ysgrifennwr Michael Eaton, a chynhyrchodd waith i’r sianel newydd bryd hynny – Channel 4. Roedd y gyfres The Eleventh Hour (1982) yn gyfle i arddangos gwaith gwneuthurwyr ffilm annibynnol Prydeinig a The Women’s Series (1983) yn llwyfan i sinema byd a gyfarwyddwyd gan fenywod. Ym 1984 cynhyrchodd ei ffilm ffuglen gyntaf sef Darkest England (1984) am natur imperialaidd Prydain Fictoraidd.
Ddiwedd yr 80au gweithiodd fel cyfarwyddwr i’r North East Media Centre, yn Gateshead yn rhan o don a ystyriai pŵer teledu fel modd o roi mynegiant i leisiau ymylol Prydain Thatcheraidd. Yn 1990 cynhyrchodd y ffilm Women in Tropical Places (Glass Fish Productions) ar Channel 4; cynhyrchiad i Tyne Tees Television a gefnogwyd gan y BFI, ac a leolwyd yn Newcastle.
Gwaith yng Nghymru
golyguYm 1993 symudodd i Gymru gyda’i phartner Ieuan Morris (ei gŵr erbyn hyn), gan ei fod e’n awyddus i’w plant fedru siarad Cymraeg. Daeth Fizzy i weithio fel cyd-lynydd rhan amser i’r corff Cyngor Ffilm Cymru, ac i diwtora yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Bu’n cynhyrchu ffilmiau byrion i’r BBC, enillodd The Confectioner wobr Ffilm Fer Orau BAFTA Cymru (1998); a Birdbrain y wobr am Ffotograffiaeth Gorau yng Ngwobrwyon Ffilmiau Byrion Prydeinig (1998).
Yn 2000 ymunodd â chwmni Fiction Factory fel pennaeth datblygu drama a chynhyrchydd. Trodd at gynhyrchu deunydd cyfrwng Cymraeg am y tro cyntaf ac enillodd Gwyfyn Ddrama Sengl Orau BAFTA Cymru yn 2004. Yn ogystal yr un flwyddyn, ar y cyd â Catrin Clarke roedd yn un o bedwar o enillwyr Gwobr Dennis Potter, gyda sgript Catrin – Moth.
Y flwyddyn olynol cafodd Ieuan Morris ei enwebu am Wobr Ryngweithiol Brydeinig BAFTA am ei ddrama fer Textual@traction, a gynhyrchwyd ganddi, drama oedd yn torri tir newydd gan ofyn i wylwyr gofrestu o flaen-llaw er mwyn medru derbyn negeseuon testun ar yr un pryd â chymeriadau’r ddrama. Darlledwyd fersiwn Gymraeg ohoni (Caru Ti x) ar S4C ym mis Ionawr 2006.
Yn 2005 enillodd y ffilm Dal:Yma/Nawr Ysbryd Yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd, fe’i cyfarwyddwyd gan Marc Evans a’i chyd-gynhyrchu gan Fizzy. Hi hefyd a gynhyrchodd y ddrama gyfres Y Pris a enwebwyd yn nifer o gategorïau Gwobrwyon BAFTA Cymru 2007. Yr un flwyddyn cipiodd y gyfres y wobr am y ddrama gyfres orau yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd, ac fe’i henwebwyd fel y ddrama gyfres orau yn y Prix Europa yn 2008.
O ystyried amrediad ei chynnyrch, mae’r cyfan yn reit anghonfensiynol er bod ‘cymuned’ a ‘llais’ yn themâu sy’n gadael argraff ar y gwyliwr. Dywed fod y prosesau sy’n galluogi syniad i gael ei wireddu o ddiddordeb mawr iddi, ynghyd â’r rhethreg o geisio gwerthu syniad i ddarlledwr neu ariannwr. Mae’n mwynhau gweithio gydag ysgrifenwyr sydd am weld eu gwaith yn datblygu, a hynny’n aml o gyfeiriad lle na chlywyd llawer o leisiau cyffelyb.
Bellach mae Fizzy yn ddarlithydd a thiwtor rhan amser ym Mhrifysgol Morgannwg, yn cyfrannu at gyrsiau ar gynhyrchu ffilm a rheolaeth busnes. Mae hi hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni Fragrant Films. Yn 2010 derbyniodd arian gan Asiantaeth Ffilm Cymru a Gwobrwyon Datblygu MEDIA i ddatblygu y ffilm Runt, sef addasiad Ieuan Morris o nofel Niall Griffiths, sy’n edrych ar effaith colled a galar ar deulu yn ystod trafferthion clwyf traed a’r genau yng nghanolbarth Cymru yn 2000. Bu’n astudio gradd Cwnsela gyda Phrifysgol Morgannwg ac yn 2010 graddiodd gyda dosbarth cyntaf.
Bywgraffiad gan Non Vaughan-Williams.
Llyfryddiaeth
golygu- Oppe, F. "Diary of Two Mad Houswives", Wales on Screen, gol. Steve Blandford (Seren, 2000)