Flora Murray
Ffeminist o'r Alban oedd Flora Murray (1869 – 1923) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel meddyg a swffragét.
Flora Murray | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1869, 1897 ![]() Dumfries ![]() |
Bu farw |
1923 ![]() Hampstead ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
meddyg, swffragét ![]() |
Gwobr/au |
CBE ![]() |
Cafodd ei geni ar fferm yn Murraythwaite, Dumfries yn 1869 yn ferch i Grace Harriet (née Graham) a John Murray, tirfeddiannwr a chapten y Llynges Frenhinol. Mynychodd ysgol yn yr Almaen a Llundain cyn mynd ymlaen i astudio i fod yn feddyg yn 'Ysgol Feddygaeth i Fenywod Llundain'. Cwblhaodd ei haddysg feddygol ym Mhrifysgol Durham, gan dderbyn ei MB BSc yn 1903, a MD yn 1905. Derbyniodd Ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus gan Brifysgol Caergrawnt ym 1906. Gweithiodd i ddechrau yn yr Alban cyn dychwelyd i Lundain. [1][2]
Ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched yn 1908, a bu'n feddyg yn y fyddin. Siaradodd mewn cyfarfodydd a ralïau, a bu ar lawer o orymdeithiau a darparodd gymorth cyntaf mewn arddangosiadau swffragetiaid. Bu'n gofalu am Emmeline Pankhurst ac ymrydwyr eraill ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar. Bu'n ymgyrchu gyda meddygon eraill yn erbyn arferiad creulon yr oes o orfodi bwyd i lawr corn gwddw'r merched.
Bu farw ym mynwent Eglwys y Drindod, Hampstead, Llundain.
AelodaethGolygu
Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
AnrhydeddauGolygu
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: CBE .
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Dyddiad geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). "Dr Flora Murray"; plac coffa; dynodwr OpenPlaques (person): 4665.
- ↑ Dyddiad marw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).