Fforest y Ddena
Ardal ddaearyddol, hanesyddol a diwylliannol yn Swydd Gaerloyw
(Ailgyfeiriad o Forest of Dean)
Ardal ddaearyddol, hanesyddol a diwylliannol yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Fforest y Ddena[1] (Saesneg: Forest of Dean). Mae'n gorwedd ym mhlwyfi sifil West Dean, Lydbrook, Cinderford, Ruspidge, a Drybrook, ynghyd â llain o dir ym mhlwyf English Bicknor. Mae'n ffinio ag Afon Gwy i'r gorllewin ac i'r gogledd, Afon Hafren i'r de, a dinas Caerloyw i'r dwyrain. Mae'n cynnwys dros 110 km² o goetir hynafol, ac mae'n goedwig frenhinol.
Math | ardal ddiwylliannol, coedwig frenhinol, coedwig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Swydd Gaerloyw |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.79°N 2.54°W |
- Erthygl am y goedwig hanesyddol yw hon. Am yr awdurdod lleol, sy'n cwmpasu ardal ehangach, gweler Ardal Fforest y Ddena. Am yr etholaeth, gweler Fforest y Ddena (etholaeth seneddol).
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 10.