Ardal Fforest y Ddena

ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerloyw

Un o'r chwech ardal an-fetropolitan sy'n gweinyddu llywodraeth leol yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Fforest y Ddena (Saesneg: Forest of Dean District), sy'n cael ei enwi ar ôl Fforest y Ddena.

Ardal Fforest y Ddena
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Gaerloyw
PrifddinasColeford Edit this on Wikidata
Poblogaeth87,937 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd526.2934 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7833°N 2.55°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000080 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Forest of Dean District Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 527 km², gyda 86,791 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â dwy ardal arall Swydd Gaerloyw, sef Ardal Stroud a Bwrdeistref Tewkesbury i'r dwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerwrangon i'r gogledd-ddwyrain, Swydd Henffordd i'r gogledd, a Sir Fynwy i'r gorllewin. Mae'n ffinio Afon Hafren ac Aber Hafren i'r de.

Ardal Fforest y Ddena yn Swydd Gaerloyw

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Mae pencadlys yr awdurdod yn nhref Coleford. Trefi eraill yr ardal yw Cinderford, Lydney, Mitcheldean a Newent.

Plwyfi sifil yr ardal yw:

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 16 Chwefror 2021

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerloyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato