Foxcote Manor (locomotif stêm)

Mae Foxcote Manor yn locomotif stêm o ddosbarth ‘Manor’, a gynlluniwyd gan Charles Collett[1] ar gyfer Rheilffordd y Great Western ac adeiladwyd yng Ngweithdy Swindon ym 1950.

Foxcote Manor yn cyrraedd Arhosfa Glanddyfrdwy

Treuliodd y locomotif ei amser gyda Rheilffordd Prydeinig i gyd ar hen Reilffordd y Cambrian, yn gweithio o Groesoswallt, Caer, Machynlleth ac Amwythig.

Aeth y locomotif i Iard Sgrap Dai Woodham yn Y Barri ym 1965, ac arhosodd yno tan 1984, pan aeth o i Groesoswallt, ac wedyn ymlaen at Langollen ym 1978.

Mae’r locomotif wedi gweithio ar sawl rheilffordd dreftadaeth: Rheilfordd Swydd Gaerloyw a Swydd Warwig, Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf, Rheilffordd Canol Swydd Hampshire, Rheilffordd y Great Central, Rheilffordd Keighley a Dyffryn Worth, Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog[2], Rheilffordd De Swydd Dyfnaint, Rheilffordd Swydd Gaint a Dwyrain Swydd Sussex ac ar Reilffordd Llangollen[3]

Mae’r enw’n dod o blasdy rhestredig Gradd II yn y bryniau Cotswold[4].

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu